Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhaglen lawn o feicio, gweithgareddau cymunedol ac adloniant ar gyfer Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn paratoi i groesawu Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds, gyda phenwythnos llawn cyffro o feicio elitaidd a gweithgareddau i bobl o bob oed.

Cynhelir y Pencampwriaethau rhwng dydd Iau 25 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin, gyda rhaglen lawn o rasys ar draws y sir. Bydd y ras prawf amser yn cael ei chynnal ddydd Iau yn Llanbedr Pont Steffan, ac yna’r ras gylchffordd ddydd Gwener yn Aberystwyth, cyn i’r penwythnos ddod i ben gyda’r ras y ffordd ddydd Sul yn Aberystwyth.

Yn ogystal â’r prif rasys, bydd prynhawn dydd Gwener ar Bromenâd Aberystwyth yn llawn gweithgarwch, gan gynnwys:

  • Rasys Beicio i Blant am 1:30pm ar y promenâd, gan roi cyfle i feicwyr ifanc fod yn rhan o’r cyffro
  • Taith Baton y Brenin am 3:45pm, yn dechrau ar Heol y Wig, wrth iddo deithio drwy’r dref ar ei ffordd tuag at Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow

Yn ogystal â’r rasys cyffrous ledled y sir, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau Ardal Arddangos fywiog ar Bromenâd Aberystwyth, a fydd ar agor ar ddydd Gwener 26 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin, gan gynnig adloniant, gweithgareddau a chyfle i gysylltu â sefydliadau a busnesau lleol.

Bydd sgrin fawr ar y Promenâd hefyd, gan roi cyfle i wylwyr ddilyn yr holl rasys yn fyw dros y penwythnos tra’n mwynhau awyrgylch yr ŵyl. I’r rhai sy’n gwylio o bell, gellir dilyn y Pencampwriaethau hefyd ar eu ffonau symudol drwy sianel YouTube British Cycling, yn ogystal â’u darlledu ar TNT Sports, gan sicrhau nad yw cefnogwyr yn colli dim o’r cyffro.

Bydd yr Ardal Arddangos yn cynnwys arddangosiadau BMX gan gwmni lleol Shin-Dig ar ddydd Gwener 26 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin, gan ddod â pherfformiadau egni uchel a styntiau trawiadol.

Gall ymwelwyr â’r Ardal Arddangos hefyd edrych o gwmpas amrywiaeth o stondinau gan sefydliadau cefnogol, gweler ein gwefan am y rhestr lawn: Pencampwriaethau Seiclo - Cyngor Sir Ceredigion

I’r rhai sy’n teithio i wylio’r rasys, mae nifer o opsiynau parcio ar gael:

  • Yn Llanbedr Pont Steffan, bydd pob maes parcio ar agor ac ar gael i ymwelwyr
  • Yn Aberystwyth, cynghorir ymwelwyr i ddefnyddio meysydd parcio Maesyrafon, Rhodfa Park Avenue a Lower Park Avenue ar y dydd Gwener a’r dydd Sul. Bydd maes parcio North Road ar agor, ond dim ond o gyfeiriad North Road y gellir ei gyrraedd (dim mynediad drwy Queen’s Road)

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Economi ac Adfywio: “Mae Pencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds yn addo dod â chyffro sylweddol ac ymwelwyr i’r ardal, gan arddangos Ceredigion fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a chreu buddion parhaol i gymunedau a busnesau lleol. Anogir trigolion ac ymwelwyr i ddod draw, cefnogi’r beicwyr a gwneud y mwyaf o bopeth sy’n digwydd dros y penwythnos.”

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth diweddaraf, ac ewch i'n gwefan: Pencampwriaethau Seiclo - Cyngor Sir Ceredigion

22/06/2026