Rhagflas o’r ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2026
Bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 yn cychwyn yr wythnos hon yng Ngheredigion gyda phrawf amser dwys drwy dref farchnad brydferth Llanbedr Pont Steffan. Bydd beicwyr yn cystadlu o flaen y dorf Gymreig am ogoniant a’r teitl cenedlaethol yn y cyntaf o dri digwyddiad y bencampwriaeth.
Y cymal
Ar ddydd Iau 25 Mehefin bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 yn dechrau wrth i rai o’r enwau mwyaf ym myd beicio ffordd Prydain wynebu cwrs heriol ar ffyrdd Ceredigion.
Yn cychwyn ger campws Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, mae’r cwrs newydd yn cynnwys cylch sy’n cynnwys caeau gwyrdd a bryniau prydferth yr ardal gyfagos.
Bydd ffyrdd tonnog yn croesawu’r beicwyr wrth iddynt geisio dod i’w rhythm wrth gyflymu allan o Lanbedr Pont Steffan tuag at bentref Llanfair Clydogau. Wrth fynd heibio’r neuadd bentref, bydd y reidwyr yn troi’n ôl tuag at Llanbedr Pont Steffan, gan basio Cellan a chyrion Cwmann, gan greu prawf rhagorol i’r cystadleuwyr.
Bydd y rasio’n dechrau’n gynnar gyda phrawf amser Dynion dan 23 yn dechrau am 9yb, ac yna’r Merched Elît am 10:46yb, y Merched dan 23 am 1:50yp, cyn i’r Dynion Elît gloi’r diwrnod am 2:50yp.
Y reidwyr
Mae safon y reidwyr Prydeinig sy’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds eleni yn eithriadol o uchel.
Bydd pob un o’r pedwar pencampwr prawf amser cenedlaethol presennol – Zoe Backstedt (CANYON // SRAM Zondacrypto), Ethan Hayter (Soudal Quick-Step), Millie Couzens (Fenix-Premier Tech) a Callum Thornley (Red Bull - BORA – Hansgrohe) – yn dychwelyd i Geredigion. Mae Couzens a Thornley bellach yn cystadlu yn y categori elît ar ôl ennill eu teitlau dan 23 y llynedd.
Bydd enillydd medal arian Paris 2024, Anna Henderson (Lidl – Trek), yn dychwelyd i geisio’r teitl domestig ym mhrawf amser y Merched Elît, tra bydd seren ifanc Erin Boothman (Liv AlUla Jayco) yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol, ac yn un i’w gwylio yn y categori Merched dan 23.
Ymhlith y rhai i gadw llygad arnynt ym mhrawf amser y Dynion Elît mae Charlie Tanfield (Aelod Annibynnol) a Sam Watson (NetCompany Ineos), tra bydd enillydd medal arian 2025, Ben Wiggins (Hagens Berman Jayco), yn ceisio mynd un cam ymhellach eleni yn y categori Dynion dan 23, ynghyd â beicwyr cryf fel Josh Golliker (EF Education – Aevolo) a Henry Hobbs (Team Visma | Lease a Bike Development).
Bydd nifer o feicwyr o Gymru yn sicr o fod ymhlith ffefrynnau’r dorf, gan gynnwys Finlay Tarling (NSN Development Team), Rory Gravelle (Tirol KTM Cycling Team), Elynor Backstedt (UAE Team ADQ), Anna Morris (Aelod Annibynnol) a Lowri Richards (Solas Cycling).
Wrth siarad cyn y bencampwriaethau, dywedodd pencampwraig genedlaethol prawf amser y Merched Elît, Zoe Backstedt:
“Rydw i’n gyffrous iawn am y prawf amser eleni. Roedd y llynedd yn wych, ond eleni rwy’n teimlo bod y cwrs yn fwy addas i mi. Mae wedi bod yn brofiad arbennig cael rasio yn y crys eleni, mynd yn syth o’r Pencampwriaethau i mewn i gystadlaethau a llwyddo ynddo – rwy’n teimlo fy mod i wedi gwneud y crys yn falch.
“Mae cael rasio yn y pencampwriaethau cenedlaethol yn brofiad gwych, ac mae cael rasio mor agos at adref yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n rhoi ychydig mwy o egni, cyffro ychwanegol hynny I wthio hyd yn oed yn galetach.”
Gweler rhestr y reidwyr llawn yma.
Sut i wylio
I ddilynwyr na fydd yn medru gwylio o ochr y ffordd, gallwch ddilyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol British Cycling. Hefyd bydd adroddiad llawn a lluniau o’r ras yn erbyn y cloc i’w gweld ar wefan British Cycling toc ar ôl i’r digwyddiad olaf orffen.
Bydd pecyn uchafbwyntiau hefyd ar gael ar sianel YouTube British Cycling ar ôl y digwyddiad.
Ymunwch yn y sgwrs!
Boed yn Llanbedr Pont Steffan neu’n gwylio gartref, anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom ar Facebook ac Instagram lle byddwn yn rhannu ein cynnwys ecsgliwsif a lluniau o’r tu ôl i’r llenni drwy gydol y digwyddiad.
22/06/2026