Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhagflas o’r ras gylchffordd ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2026

Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd tan y bydd Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2025 yn dechrau yng Ngheredigion, mae’r cyffro yn cynyddu wrth i’r reidwyr baratoi i ymgiprys yn y ras gylchffordd ar strydoedd Aberystwyth. Bydd y reidwyr yn rasio o flaen y dorf Gymreig am ogoniant a’r goron genedlaethol yn ail o dri digwyddiad y bencampwriaeth.

Y cymal

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion, byddwn yn dychwelyd i’r un cylch â 2025, gan gychwyn ar hyd y promenâd eiconig cyn symud i strydoedd canol y dref ar gyfer cwrs llawn troeon technegol a heriol sy’n torri ar rythm y ras.

Bydd y ras yn cael ei chynnal yn wrthglocwedd, gan basio’r Bandstand ar bob lap. Bydd y reidwyr yn troi i’r chwith i Heol y Wig, yn teithio ar hyd Stryd Portland, cyn mynd i Morfa Mawr ac ymuno eto â Rhodfa Fuddug, lle bydd y llinell derfyn ar bob lap yng nghanol sŵn y dorf.

Bydd 50 munud o rasio a pum lap o gylch 1.6km yn penderfynu canlyniadau pencampwriaethau’r merched elît a’r ras agored. Ni fydd angen i wylwyr bryderu am golli gwaith, gan fod y ras gylch yn cael ei chynnal gyda’r nos – bydd ras y merched yn ddechrau am 18:15, a’r ras agored am 20:00.

Y reidwyr

Mae Pencampwriaethau Cylch Cenedlaethol Lloyds yn llawn talent, gan gynnwys nifer o gyn-bencampwyr cenedlaethol.

Bydd Kate Richardson (Handsling Alba Development Road Team) yn dychwelyd i’r llinell gychwyn ar ôl ei buddugoliaeth gofiadwy yn Aberystwyth llynedd, ynghyd â phencampwraig cylch cenedlaethol 2023 a ffefryn y dorf Gymreig, Megan Barker (Rapha Cycling Club). Yn ail y llynedd, bydd Isabel Sharp (Handsling Alba Development Road Team) hefyd yn gobeithio mynd un cam ymhellach eleni.

Wrth edrych ymlaen at amddiffyn ei theitl, dywedodd Richardson:

“Roedd y ras gylchffordd yn Aberystwyth llynedd yn uchafbwynt gwirioneddol i mi, ac ennill yn y modd y gwnes i yn y sbrint gyda Izzy a Jess oedd yn brofiad arbennig iawn. Mae wedi bod yn fraint cael cyfleoedd dros y 12 mis diwethaf i wisgo’r crys.

“Alla i ddim aros i ddychwelyd i Gymru’r wythnos nesaf i’w amddiffyn. Mae’r sîn crit yn adnabyddus am ei hawyrgylch wych yn y DU – does dim byd gwell na sefyll ar y llinell gychwyn gyda’r strydoedd yn llawn gwylwyr, a gobeithio bydd yr haul yn tywynnu hefyd. Bydd yn noson wefreiddiol, rwy’n siŵr!”

Bydd Cameron Mason (ALPECIN-PREMIER TECH DEVELOPMENT TEAM) hefyd yn dychwelyd fel y pencampwr presennol, ond bydd yn wynebu cystadleuaeth gref. Bydd pencampwr 2023 Oliver Wood (Rapha Cycling Club) ac enillydd 2022 Matt Bostock (Rapha Cycling Club) yn dychwelyd hefyd, gyda Bostock mewn ffurf dda yn dilyn buddugoliaethau diweddar yn City of London Nocturne a Fort Vale Colne Grand Prix.

Wrth siarad cyn y ras, dywedodd Matt Bostock:

“Roedd bod yn Bencampwr Cylchfordd Cenedlaethol yn anrhydedd enfawr ac yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Gyda safon y reidwyr sydd gennym yn y DU, mae cael eich cydnabod fel y gorau yn rhywbeth arbennig iawn.

“Mae’r pencampwriaethau cenedlaethol bob amser yn teimlo’n wahanol – mae gan bawb ychydig mwy o bwysau a chymhelliant. Roedd y dorf yng Nghymru yn wych y llynedd, felly rwy’n edrych ymlaen at brofi hynny eto. Rwy’n siŵr y byddwn i gyd yn rhoi sioe dda ymlaen.”

Bydd nifer o reidwyr Cymreig yn cystadlu ar ffyrdd eu hardal eu hunain, gan obeithio bod ymhlith ffefrynnau’r dorf eleni. Mae Megan Barker (TEKKERZ CC), Rhys Britton (Dolan Factory Racing), Anna Lloyd (Shibden Apex RT) a Huw Owen (Clwb Beicio Egni Eryri) ymhlith y rhai fydd yn codi awyrgylch y dorf ac yn ceisio gwneud marc ar dir cyfarwydd.

Wrth siarad cyn y bencampwriaeth, dywedodd Megan Barker:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rasio yng Nghymru eto – mae’n braf cael cystadlu yno a chael teulu’n dod allan i gefnogi.

“Mae gwisgo’r crys cenedlaethol wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. I fod yn onest, roedd yn eithaf annisgwyl y flwyddyn honno, a wnaeth hynny ei wneud yn fwy arbennig fyth. Roedd sefyll ar y llinell yn Otley ychydig ddyddiau’n ddiweddarach yn y streipiau o flaen cymaint o bobl yn brofiad anhygoel.

“Mae’r rhestr gychwyn yn edrych yn gryf iawn. Rydyn ni wedi gwneud ychydig o rasys crit yn ddiweddar ac mae’r safon mor uchel, felly bydd yn anodd a bydd angen i mi rasio’n glyfar i gael cyfle o ennill.”

Gweler rhestr y reidwyr yma 

Sut i wylio

I ddilynwyr na fydd yn medru gwylio o ochr y ffordd, gallwch wylio’n fyw ar sianel Youtube British Cycling, gyda ras y merched yn dechrau’n fyw am 18:00 a’r ras agored am 19:50. Bydd y ras hefyd ar gael ar TNT Sport 2.

Gallwch hefyd ddilyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol British Cycling. Hefyd bydd adroddiad llawn a lluniau i’w gweld ar wefan British Cycling toc ar ôl i’r digwyddiad olaf orffen.

Ymunwch yn y sgwrs!

Boed yn Aberystwyth neu’n gwylio gartref, anfonwch eich sylwadau a’ch lluniau atom ar Facebook ac Instagram lle byddwn yn rhannu ein cynnwys ecsgliwsif a lluniau o’r tu ôl i’r llenni drwy gydol y digwyddiad.

23/06/2026