Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Prosiectau yng Nghanolbarth Cymru yn paratoi’r ffordd ar gyfer atebion sero net 

Gyda chymorth Tyfu Canolbarth Cymru, mae rhaglen Ymchwil ac Arloesedd System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID), a ariennir gan Arloesi Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus. Yn ystod y cam hwn, cafodd cyfres o brosiectau arloesol eu datblygu a’u profi ar gam prototeip i gefnogi’r pontio i sero net yng nghefn gwlad Cymru.

Yn Cam 2 WSRID archwiliwyd sut y gall cymunedau gwledig ac amaethyddol ddatgarboneiddio tra’n rheoli’r galw cynyddol ar rwydweithiau trydan cyfyngedig. Daeth y rhaglen â chyrff cyhoeddus, diwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid gwledig ynghyd i ddatblygu atebion ymarferol, system gyfan, wedi’u seilio ar amodau byd go iawn.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar un dechnoleg yn unig, archwiliodd Cam 2 sut y gall cynhyrchu ynni datganoledig, defnydd hyblyg o ynni ac offer digidol weithio gyda’i gilydd i leihau’r pwysau ar y grid, tra’n cefnogi ffermio, coedwigaeth, busnesau gwledig a thwf economaidd lleol.

Dyma beth oedd y pedwar prosiect Cam 2 yn canolbwyntio arno:

  • HARVEST (Centre for Energy Equality a phartneriaid) – Datblygodd fodel ynni cynhwysol yn gymdeithasol, dan arweiniad y gymuned, trwy Orsaf Bŵer Rithwir Gymdeithasol (SVPP), wedi’i chynllunio i rannu buddion ar draws cymunedau gwledig a darparu hyblygrwydd lleol. Darparodd y prosiect hefyd arddangosiad yn Llanidloes gyda chyllid Ynni Cymru.
  • Water to Water – RuraVolt – Darparodd offeryn dichonoldeb digidol hawdd ei ddefnyddio sy’n galluogi ffermydd i asesu opsiynau ynni deallus ar y fferm, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, storio a hydrogen gwyrdd. Mae’r offeryn bellach yn fyw ar gyfer ffermydd llaeth Cymru ac ar gael yn https://watertowater.co.uk/ruravolt/
  • Challoch Energy – VREM Cymru (Pontarfynach) – Archwiliodd ddefnydd o ynni gwynt wedi’i gyfyngu i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, gan gefnogi datgarboneiddio gweithrediadau coedwigaeth a phren – sector gwledig sy’n bwysig yn economaidd ond sy’n anodd ei ddatgarboneiddio.
  • Lafan – Datblygodd gynnig i ddefnyddio gormodedd o faetholion da byw drwy dreulio anaerobig a chynhyrchu bio-garbon (biochar). Byddai slyri’n cael ei sychu ar y fferm a’i gludo i ganolfan ganolog, gyda’r ynni a gynhyrchir naill ai’n cael ei fewnosod i’r grid nwy neu’n cael ei drosi’n drydan ar gyfer ei storio a’i ddefnyddio ar y grid.

Mae cwblhau Cam 2 yn garreg filltir bwysig, gyda’r canfyddiadau’n helpu i lunio rhaglenni, cyllid a pholisïau yn y dyfodol i sicrhau bod cefn gwlad Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y pontio i sero net.

Mewn datganiad ar y cyd gan Arweinwyr Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a’r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Mae’r rhaglen hon yn helpu i droi syniadau newydd yn gyfleoedd go iawn i Ganolbarth Cymru, gan ddangos sut y gall arloesedd ddarparu manteision ymarferol i’n cymunedau, ein busnesau a’n heconomi wledig. Drwy gefnogi prosiectau o ddichonoldeb cynnar hyd at gam prototeip, rydym yn adeiladu’r dystiolaeth a’r hyder sydd eu hangen i ddatblygu’r atebion hyn ymhellach. Bydd buddsoddiad parhaus yn allweddol i ehangu’r hyn sy’n gweithio, gan sicrhau bod Canolbarth Cymru mewn sefyllfa dda i gyflawni sero net tra’n creu cyfleoedd economaidd hirdymor i’r rhanbarth.”

Bydd Tyfu Canolbarth Cymru bellach yn ystyried sut y gellir profi’r syniadau hyn ymhellach, eu hymestyn a’u cyflwyno ar draws y rhanbarth.

Mae clipiau fideo byr sy’n arddangos pob un o’r prosiectau ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru, gan roi cipolwg manylach ar sut mae’r syniadau’n gweithio yn ymarferol: https://youtube.com/playlist?list=PLawiFEKPPl4iOXz9P2hTYXso7U7puH30R&si=xNVR7H1iJ2QaCpPw

 

 

Gall busnesau, ffermwyr a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cyfleoedd yn y dyfodol gael y wybodaeth ddiweddaraf a chymryd rhan drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron  

22/06/2026