Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Prosiect Ysbrydoli Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dod â chenedlaethau ynghyd drwy gemau retro

Ar ddydd Iau 15 Ionawr, ymunodd aelodau o brosiect Ysbrydoli Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion â thrigolion cartref gofal Hafan Y Waun ar gyfer digwyddiad gemau aml genhedlaeth unigryw a gyflwynwyd mewn cydweithrediad ag E-Chwaraeon Cymru, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Nod y prosiect oedd pontio cenedlaethau drwy chwarae ar y cyd, gan ddefnyddio gemau clasurol sy'n seiliedig ar gonsol fel ‘Donkey Kong’, ‘Super Mario Brothers’, ac amrywiaeth o ffefrynnau retro eraill. Gyda hwyl, cystadleuaeth gyfeillgar, a digon o sbri wrth i bobl ifanc a thrigolion gysylltu dros gemau nad oedd llawer wedi'u chwarae ers degawdau. 

Dywedodd Siani sy'n aelod o brosiect Ysbrydoli: "Mwynheais chwarae gemau fideo gyda gwahanol genedlaethau yn fawr iawn. Roedd yn braf eu gweld yn mwynhau gweithgareddau rydyn ni'n hoffi eu gwneud yn ein hamser hamdden" 

I ychwanegu at y cyffro, sefydlwyd efelychydd gyrru llawn ar y safle, gan roi cyfle i gyfranogwyr brofi gêm rasio F1 heb adael Hafan Y Waun byth. Cymerodd trigolion a phobl ifanc fel ei gilydd eu tro y tu ôl i'r olwyn rithwir, gan gefnogi ei gilydd wrth iddynt lywio cylchdeithiau cyflym. 

Dywedodd John Jackson o E-Chwaraeon Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i ni gyflwyno prosiect fel hwn, ac fe brofodd i fod yn llwyddiant go iawn. Dangosodd fod e-chwaraeon wir ar gyfer pawb, gan ddarparu ffordd gynhwysol a diddorol i gyfranogwyr hŷn archwilio llwybrau newydd i e-chwaraeon.”

Dywedodd Rachel Jones, Rheolwr Cofrestredig Hafan y Waun: “Am brofiad anhygoel i drigolion Hafan y Waun! Cawsant y cyfle bendigedig i dreulio amser gyda’r genhedlaeth iau, dysgu sut i chwarae gemau ac archwilio technoleg newydd gyda’i gilydd. Mae amseroedd fel hyn yn dod â chymaint o lawenydd, cysylltiad â dysgu traws-genhedlaeth - mae’n ysbrydoledig gweld trigolion a phobl ifanc yn rhyngweithio, yn mwynhau ac yn rhannu sgiliau.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac E-Chwaraeon Cymru yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y peilot hwn ac archwilio cyfleoedd pellach i ddod â chymunedau ynghyd trwy weithgareddau digidol. 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gydol oes a Llesiant: “Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft wych o ddefnyddio technoleg i ddod â chenedlaethau at ei gilydd. Mae’n hyfryd gweld pobl ifanc a thrigolion Hafan y Waun yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn rhannu profiadau yn y ffordd hon. Da iawn Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac E-Chwaraeron Cymru am arwain y ffordd gyda dulliau mor arloesol ac ymgysylltiol. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddarparu’r profiadau cyfoethog hyn i drigolion Hafan y Waun a chartrefi gofal eraill yn y sir.”

Mae prosiect Ysbrydoli yn targedu pobl ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Ei nod yw helpu pobl ifanc i feithrin hyder, cymdeithasu a dysgu sgiliau newydd. 

Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at - porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk

09/02/2026