Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Preswylwyr Hafan y Waun yn dathlu dodrefn gardd hygyrch newydd wedi’i greu gan ddysgwyr lleol

Mae preswylwyr Hafan y Waun wedi croesawu bwrdd plannu a photio sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, yn ogystal â mainc ardd gyda phlanwyr yn rhan ohoni, sydd wedi’u creu gan ddysgwyr ar y cwrs gwaith coed, sy’n rhan o’r cwricwlwm amgen yn Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT).

Dros y chwe wythnos diwethaf, mae’r dysgwyr wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u ymgynghorwyr hyfforddi a mentoriaid Sgiliau Plant a Phobl Ifanc i gynllunio ac adeiladu darnau ymarferol o ddodrefn gardd, sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol pwysig ar yr un pryd.

Er mwyn nodi’r rhodd, cynhaliodd preswylwyr Hafan y Waun de prynhawn i’r dysgwyr, a chafodd pawb gyfle i gymryd rhan mewn plannu casgliad o fylbiau’r gwanwyn, gan gynnwys Cennin Pedr, Hiasinthiau, Fioledau ac Eirlysiau’r gwanwyn. Roedd yr achlysur yn arddangos ysbryd cymunedol cryf a’r cysylltiadau traws-oes sy’n greiddiol i’r prosiect.

Dywedodd Dic Evans, un o’r preswylwyr: ““Roedd yn wych gweld bod pobl ifanc lleol wedi gweithio’n galed tra ar ei cwrs yn Hyfforddiant Ceredigion i adeiladu bwrdd plannu hygyrch a mainc gyda phlanwyr. Daethant i’n helpu i’w gosod ac i blannu blodau gyda ni o dan oruchwyliaeth Martin, eu hymgynghorydd hyfforddi a Lauren, eu mentor. Plannwyd llawer o blanhigion, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn tyfu i harddu ein haf.”

Rhannodd y dysgwyr eu profiadau hefyd am y cyfle i wella sgiliau:

Dywedodd Tarek Hemmings ac Aled Mathews, sy’n mynychu’r gwersi saer coed yn HCT: “Rydym wedi mwynhau gwneud y fainc fel tîm ac mae wedi ein helpu gyda’n sgiliau cyfathrebu a’n gwaith tîm.”

Ychwanegodd Joseph Walley: “Mae adeiladu’r meinciau gyda phlanwyr wedi ein helpu i ddatblygu ein sgiliau mesur a marcio, ac wedi gwella ein gallu i ddefnyddio’r dril.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae’n hyfryd gweld dysgwyr HCT yn cyfrannu at eu cymuned leol wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr, ac ar yr un pryd gweld trigolion Hafan y Waun yn dod ynghyd. Da iawn i bawb wnaeth cymryd rhan.”

Bydd y bwrdd hygyrch bellach yn galluogi nifer o breswylwyr i gymryd rhan mewn garddio ar y safle, gan gynnig cymorth ymarferol ac atgof lliwgar, parhaus o’r ymdrech ar y cyd a ddaeth â’r prosiect cymunedol hwn i fodolaeth.

Cefnogwyd y prosiect gan Grant Oed Gyfeillgar Cyngor Sir Ceredigion ac fe’i gyflwynwyd mewn partneriaeth â Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyrhaeddiad, a’r Tîm Gwasanaethau Uniongyrchol.

07/04/2026