Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pobl leol yn helpu llunio dyfodol monitro arfordirol ac afonydd yng Ngheredigion

Daeth gwirfoddolwyr lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol ynghyd yng Nghastell Aberteifi ar 18 Chwefror i ddysgu mwy am sut mae gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i warchod afonydd, arfordir a bywyd morol Ceredigion.

Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Rheoli Maetholion, daeth Cynhadledd Monitro Morol Ceredigion â phobl sydd eisoes yn ymwneud â monitro dŵr a bywyd gwyllt ynghyd — yn ogystal â’r rhai oedd yn awyddus i ddysgu mwy — i rannu profiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd ac archwilio sut y gallai’r gwaith hwn dyfu ledled Gorllewin Cymru, gan ymestyn ar draws dalgylchoedd afonydd Tywi a Chleddau yn y blynyddoedd i ddod.

Yn ystod y bore, clywodd y mynychwyr sut mae gwirfoddolwyr lleol yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau, gwyddonwyr a phartneriaid technoleg i gasglu gwybodaeth syml ond gwerthfawr am ansawdd dŵr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer hawdd ei ddefnyddio ac offer digidol sy’n helpu i greu darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd mewn afonydd lleol ac ar hyd yr arfordir.

Rhannodd gwirfoddolwyr o ddalgylch afon Teifi ac ardaloedd cyfagos straeon go iawn o’r maes — beth sy’n gweithio’n dda, beth all fod yn heriol, a pha gefnogaeth fyddai’n eu helpu i wneud mwy. Helpodd y trafodaethau hyn i lywio syniadau ar gyfer gwella hyfforddiant, offer a chyfleoedd i gymryd rhan dros y blynyddoedd nesaf.

Yn y prynhawn, trodd y ffocws at y dechnoleg sy’n cael ei defnyddio i fonitro afonydd a dyfroedd arfordirol, ac yna cafwyd cipolwg mwy ymarferol ar fonitro bywyd gwyllt ar hyd arfordir Ceredigion. Dysgodd y mynychwyr sut y gall aelodau’r cyhoedd helpu i gofnodi morloi, dolffiniaid a bywyd morol arall, a sut mae’r cofnodion hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ddeall a diogelu ecosystemau lleol.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli Maetholion: “Mae’r gwaith a’r datblygiadau ers 2022 wedi bod yn sylweddol, ond mae mwy i’w wneud, ac mae gan bobl leol rôl hanfodol i’w chwarae wrth ofalu am ein hafonydd a’n harfordir.

Dangosodd y digwyddiad hwn sut y gall gwybodaeth gymunedol, ynghyd ag offer monitro syml, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym am annog mwy o drigolion i gymryd rhan a dod yn wyddonwyr dinasyddion — does dim angen bod yn arbenigwr, dim ond bod yn chwilfrydig ac yn barod i gymryd rhan.

Tynnodd y gynhadledd sylw at gyfleoedd cynyddol i bobl o bob oed a chefndir gymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion — o helpu i fonitro ansawdd dŵr i gofnodi bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir.”

Gwrandewch ar y Cynghorydd Clive Davies yn myfyrio ar y digwyddiad yma: https://youtube.com/shorts/0VEXH8_yMtc?feature=share
Dywedodd un o’r mynychwyr, sy’n gwirfoddoli’n lleol: “Fe ddes i oherwydd fy mod yn poeni am yr hyn sy’n digwydd i’n hafonydd a’n harfordir, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o wahaniaeth gall pobl gyffredin ei wneud. Roedd hi’n galonogol iawn clywed gan eraill sy’n gwneud gwaith tebyg a gweld sut gall ein harsylwadau helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.”


Yn ystod y misoedd diwethaf, bu cynnydd pellach hefyd wrth ddatblygu’r system monitro maetholion sydd wedi’i gosod yng Ngheinewydd. Mae’r gwaith hwn yn helpu i fireinio sut mae data amser real ar lefelau maetholion yn cael ei gasglu a’i rannu, gan gryfhau’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i ddeall yn well y pwysau ar ein hafonydd a’n dyfroedd arfordirol. Mae datblygiad parhaus y system hon yn adlewyrchu ymrwymiad partneriaid a gwirfoddolwyr lleol i gyfuno monitro dan arweiniad y gymuned â thechnoleg arloesol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn wyddonydd dinasyddion, hoffech fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol, neu eisiau gwybod mwy am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â Swyddog Rheoli Maetholion Cyngor Sir Ceredigion, Liza Zanoni, drwy e-bost: Liza.Zanoni@ceredigion.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Monitro Maetholion, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cynllunio-rheoli-adeiladu/nitradau-yn-ardal-cadwraeth-arbennig-afon-teifi/prosiect-monitro-maethynnau-teifi/

Mae’r Prosiect Monitro Maetholion yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac yn cael ei weinyddu gan dîm Cynnal y Cardi, Cyngor Sir Ceredigion, ac yn cael ei gyflwyno ar y cyd â’r Bwrdd Rheoli Maetholion a’i randdeiliaid.

12/03/2026