Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 i ddychwelyd i Geredigion

Bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dychwelyd i Geredigion rhwng 25 a 28 Mehefin 2026.

Dros dri diwrnod o rasio elît, cynhelir Pencampwriaethau’r Prawf Amser, y Gylchffordd a Ras y Ffordd mewn lleoliadau ledled y sir. Bydd y Pencampwriaethau Prawf Amser yn cael eu cynnal yn Llanbedr Pont Steffan, gyda Phencampwriaethau’r Gylchffordd a’r Ras Ffordd yn dechrau unwaith eto yn Aberystwyth. Bydd manylion llawn y llwybrau’n cael eu cyhoeddi maes o law.

Cynhaliodd Ceredigion Bencampwriaethau llwyddiannus yn 2025, gan ddenu tyrfaoedd mawr i wylio’r seiclwyr gorau ym Mhrydain yn cystadlu am y teitlau cenedlaethol. Enillwyd y coronau elît gan Zoe Backstedt, Ethan Hayter, Cameron Mason, Kate Richardson, Mille Couzens a Samuel Watson dros benwythnos cyffrous o rasio.

Mae’r bartneriaeth yn cefnogi uchelgais ehangach Cymru i gynnal digwyddiadau seiclo o safon fyd-eang yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys cymal tri Grand Départ Tour de France 2027, rhwng y Trallwng a Chaerdydd.

O strydoedd Aberystwyth i'r mynyddoedd yng nghanol cymoedd de Cymru a fydd yn rhan o lwybr Grand Départ Tour de France, rydym yn benderfynol bod gan bob rhan o Gymru’r cyfle i rannu’r angerdd a’r manteision economaidd y mae digwyddiadau seiclo mawr yn eu cynnig. Er nad yw Ceredigion yn eistedd ar lwybr y TdF, mae digwyddiadau fel hyn yn dangos bod seiclo rhagorol yn perthyn i bob cwr o Gymru – ac rydym wedi ymrwymo i wireddu hynny.”

Mae disgwyl i’r Pencampwriaethau barhau i ddarparu manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i gymunedau ledled Ceredigion ac i Gymru gyfan. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan British Cycling

31/03/2026