Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 i ddychwelyd i Geredigion
Bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dychwelyd i Geredigion rhwng 25 a 28 Mehefin 2026, fel rhan o gytundeb rhwng British Cycling a Llywodraeth Cymru i gynnal y Pencampwriaethau yng Nghymru tan 2027.
Dros dri diwrnod o rasio elît, cynhelir Pencampwriaethau’r Prawf Amser, y Gylchffordd a Ras y Ffordd mewn lleoliadau ledled y sir. Bydd y Pencampwriaethau Prawf Amser yn cael eu cynnal yn Llanbedr Pont Steffan, gyda Phencampwriaethau’r Gylchffordd a’r Ras Ffordd yn dechrau unwaith eto yn Aberystwyth. Bydd manylion llawn y llwybrau’n cael eu cyhoeddi maes o law.
Cynhaliodd Ceredigion Bencampwriaethau llwyddiannus yn 2025, gan ddenu tyrfaoedd mawr i wylio’r seiclwyr gorau ym Mhrydain yn cystadlu am y teitlau cenedlaethol. Enillwyd y coronau elît gan Zoe Backstedt, Ethan Hayter, Cameron Mason, Kate Richardson, Mille Couzens a Samuel Watson dros benwythnos cyffrous o rasio.
Mae’r bartneriaeth yn cefnogi uchelgais ehangach Cymru i gynnal digwyddiadau seiclo o safon fyd-eang yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys cymal tri Grand Départ Tour de France 2027, rhwng y Trallwng a Chaerdydd.
Dywedodd Jonathan Day, Cyfarwyddwr Digwyddiadau British Cycling Ventures: “Mae Cymru wedi bod yn gefnogwr mawr o gynnal digwyddiadau seiclo mawr, ac mae Ceredigion yn cynnig y llwyfan perffaith ar gyfer yr hyn sy'n addo bod yn Bencampwriaethau Cenedlaethol cyfareddol arall sy'n dod â'r gorau o dalent Prydain at ei gilydd. Ochr yn ochr â Chyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru, fe wnaethon ni gyflwyno Pencampwriaeth wych a diddorol y llynedd, felly rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i'r rhanbarth unwaith eto ar gyfer 2026.”
Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant AS: “Mae Cymru'n prysur ddod yn lleoliad blaenllaw ar gyfer seiclo o'r radd flaenaf, ac mae’r ffaith bod Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dychwelyd i Geredigion yn brawf pellach o hynny.
O strydoedd Aberystwyth i'r mynyddoedd yng nghanol cymoedd de Cymru a fydd yn rhan o lwybr Grand Départ Tour de France, rydym yn benderfynol bod gan bob rhan o Gymru’r cyfle i rannu’r angerdd a’r manteision economaidd y mae digwyddiadau seiclo mawr yn eu cynnig. Er nad yw Ceredigion yn eistedd ar lwybr y TdF, mae digwyddiadau fel hyn yn dangos bod seiclo rhagorol yn perthyn i bob cwr o Gymru – ac rydym wedi ymrwymo i wireddu hynny.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o groesawu Pencampwriaethau Ffordd Seiclo Prydain yn ôl i Geredigion am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant ysgubol — daeth â miloedd o ymwelwyr i'n cymunedau, arddangosodd ein tirweddau godidog i gynulleidfa ledled y Deyrnas Unedig, a rhoddodd hwb gwirioneddol i fusnesau lleol. Mae cael British Cycling yn ôl yn dyst i gryfder ein partneriaeth, brwdfrydedd ein trigolion, ac ansawdd y digwyddiad y gallwn ei gynnal yma yng Ngheredigion. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw unwaith eto eleni.”
Mae disgwyl i’r Pencampwriaethau barhau i ddarparu manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i gymunedau ledled Ceredigion ac i Gymru gyfan. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan British Cycling
04/03/2026