Opsiwn A yn cael ei gadarnhau ar gyfer Pont Droed Plascrug
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, mai Opsiwn A yw'r opsiwn a ffefrir ar gyfer Cynllun Newid Pont Droed Plascrug.

Nod y cynllun yw newid y bont droed bresennol ym Mhlascrug, Aberystwyth a rhoi strwythur modern yn ei lle sy'n bodloni safonau hygyrchedd cyfredol. Mae'r bont bresennol wedi bod yn ei lle ers tua 20 mlynedd ac mae'n darparu cyswllt hanfodol o fewn rhwydwaith teithio llesol Aberystwyth.
Gan groesi prif lein y Cambrian a rheilffordd Cwm Rheidol, mae'r bont yn cysylltu ardaloedd preswyl â chyrchfannau addysg, cyflogaeth, hamdden a manwerthu. Mae'n llwybr cyfleus a phoblogaidd gan bobl sy’n cerdded, olwyno a beicio, a rhaid i unrhyw strwythur newydd fodloni safonau dylunio modern a hefyd darparu ar gyfer y galw presennol a'r galw yn y dyfodol.
Gyda chefnogaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy a'r Swyddfa Wledig, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd wrth ddatblygu’r cynllun, gan arwain at ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 14 Ionawr a 25 Chwefror 2026. Cafodd tri opsiwn dylunio cysyniadol eu cyflwyno. Roedd Opsiwn A yn cynnig cadw lleoliad y groesfan bresennol gyda strwythur wedi'i uwchraddio, tra bod Opsiynau B ac C yn cynnig adleoli'r groesfan ar draws tir sy'n ffurfio rhan o dir Ysgol Plascrug gyda strwythurau pont hollol newydd.
Ymateb cyhoeddus cryf i'r ymgynghoriad
Cafwyd cryn dipyn o ymateb gan drigolion a sefydliadau a hoffai'r Cyngor ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb.
Derbyniwyd cyfanswm o 1,681 o holiaduron ymgynghori wedi'u cwblhau ar-lein ac ar bapur ochr yn ochr â llawer o ymatebion ysgrifenedig manwl ychwanegol yn egluro opsiwn a ffefrir gan bobl ac yn codi pryderon ynghylch y cynigion eraill.
Mae'r holl ymatebion wedi cael eu hystyried erbyn hyn, ac mae Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy wedi paratoi adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad. Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu ar wefan y Cyngor Sir a chyda rhanddeiliaid allweddol.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod y mwyafrif helaeth yn ffafrio Opsiwn A, gyda 95.3% o ymatebion i’r holiadur yn cefnogi'r cynnig i gadw lleoliad y groesfan bresennol a darparu strwythur wedi'i uwchraddio. Adlewyrchwyd y dewis hwn hefyd yn y rhan fwyaf o'r ymatebion ysgrifenedig oedd yn ffafrio Opsiwn A dros Opsiynau B a C gan nodi amrywiaeth o bryderon, yn cynnwys pryderon posibl o ran diogelu plant, effaith weledol a cholli mannau 'gwyrdd' o fewn tir yr ysgol a chyfleustra/pellteroedd teithio.
Yn ogystal â’r ymgysylltu wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid a gynhaliwyd ganol mis Ionawr, derbyniwyd sylwadau ysgrifenedig hefyd gan sawl sefydliad allweddol a leolir yn agos at yr opsiynau arfaethedig. Er bod y sefydliadau hyn yn cefnogi Opsiwn A, tynnwyd sylw at ystyriaethau gweithredol a cheisio sicrwydd y byddent yn parhau i gael eu cynnwys yn y cam dylunio manwl, er mwyn gallu ystyried a mynd i'r afael â phryderon.
Cododd sawl ymatebwr bryderon hefyd ynghylch cau’r llwybr dros dro yn ystod y cam adeiladu, gan annog y Cyngor i ystyried trefniadau dros dro i helpu i gadw mynediad lle bynnag y bo modd.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Shelley Childs, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae'r ymgynghoriad wedi rhoi canlyniad clir iawn i ni gyda mwyafrif llethol o'r ymatebwyr yn cefnogi Opsiwn A. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn a helpu i lunio dyfodol y cyswllt teithio llesol pwysig hwn”.
“Rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr adborth a gafwyd, yn enwedig y pryderon a godwyd ynghylch yr opsiynau eraill a phwysigrwydd cadw llwybr cyfleus a hygyrch i bobl sy'n cerdded, olwyno a beicio. Byddwn yn bwrw ymlaen ag Opsiwn A ar gyfer datblygu dyluniad pellach ac yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod y cynllun yn ateb anghenion y gymuned, gan roi sylw yr un pryd i’r heriau dylunio a chyflenwi sy'n parhau.”
Y camau nesaf
Ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd gan yr ymgynghoriad, mae'r Cyngor Sir yn cytuno y dylid bwrw ymlaen ag Opsiwn A ar gyfer datblygu dyluniad pellach fel yr opsiwn a ffefrir a’r un mwyaf derbyniol. Mae cyllid grant cyfalaf Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru, trwy Gynllun Trafnidiaeth Ranbarthol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth wedi cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, er mwyn i’r gwaith hwnnw allu mynd rhagddo.
Mae’r Cyngor yn dweud y bydd angen ymgysylltu parhaus a chyfathrebu effeithiol â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, wrth i'r dyluniad ddatblygu, yn enwedig mewn perthynas â mynediad, diogelu, trefniadau dros dro yn ystod y gwaith adeiladu, effeithiau gweithredol a gofynion hygyrchedd manwl.
Er y bydd Opsiwn A yn symud ymlaen i’r cam dylunio manwl, bydd unrhyw adeiladu yn y dyfodol yn parhau i fod yn destun sawl ffactor arwyddocaol y bydd y Cyngor a'i ymgynghorwyr yn eu hystyried, fel rhan o ddatblygu cynllun hyfyw.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr adroddiad ymgynghori, ar gael yn: Cynllun Teithio Llesol Pont Plascrug - Cyngor Sir Ceredigion
16/06/2026