Noson ysbrydoledig o gerddoriaeth yng Nghanolfan y Celfyddydau
Cafwyd noson gofiadwy arall yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ddydd Sul (26 Ebrill), wrth i gynulleidfa niferus fwynhau cyngerdd bywiog gan Wasanaeth Cerdd Ceredigion.
Roedd y digwyddiad yn arddangos dawn ryfeddol cerddorion ifanc o bob cwr o’r sir, ochr yn ochr â gwesteion arbennig.
Cyflwynodd Cerddorfa a Chôr Canolradd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion repertoire amrywiol o drefniadau o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig i weithiau o’r cyfnod clasurol a chaneuon sioe gerdd. Bu’r gyngerdd yn gyfle hefyd i dynnu sylw at aelodau hŷn y gwasanaeth a fydd yn cynrychioli’r sir ar lefel genedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd ar ddiwedd mis Mai, a gyda ensemblau Cenedlaethol yn ystod gwyliau’r haf.
Cyfoethogwyd y noson ymhellach gan ymddangosiadau gwesteion arbennig, y tenor o Sir Benfro, Trystan Llyr Griffiths, y pianydd David Doidge, a chôr meibion Ar Ôl 3 o Aberteifi. Ychwanegodd eu cyfraniadau sglein a dyfnder i’r rhaglen, gan greu eiliadau ysbrydoledig o gydweithio rhwng artistiaid proffesiynol a cherddorion ifanc uchelgeisiol.
Dywedodd Dan Edwards-Phillips, Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion: “Rydym yn hynod falch o’r holl bobl ifanc a berfformiodd. Maent wedi tyfu mewn hyder a chymeriad drwy gydol y broses ymarfer, ac ni allem fod yn fwy balch o’r hyn a gyflawnwyd ganddynt ar y llwyfan. Gwnaeth rhannu’r llwyfan ag artistiaid mor enwog wneud y noson yn fwy arbennig fyth a darparu profiad gwirioneddol ysbrydoledig i bawb a fu’n rhan ohoni.”
Cofiwch ddilyn Gwasanaeth Cerdd Ceredigion ar Facebook am y newyddion diweddaraf.
30/04/2026