Newidiadau i barcio ar Bromenâd Aberystwyth
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno taliadau parcio ar y stryd ar rannau o’r prom yn Aberystwyth o ddydd Llun 18 Mai 2026. Bydd y newidiadau’n berthnasol ar Rhodfa Fuddug, Glan y Môr, a’r Promenâd Newydd, gyda thaliadau’n weithredol bob dydd rhwng 08:00 a 20:00.

Mae’r promenâd ymhlith y lleoliadau parcio mwyaf poblogaidd yn y sir. Nod cyflwyno taliadau yw helpu i reoli’r galw, gwella trosiant llefydd parcio ar gyfer arosiadau byr, a’i gwneud hi’n haws i drigolion, ymwelwyr a busnesau lleol ddod o hyd i leoliadau parcio wrth deithio i’r dref. Bydd hefyd yn annog pobl i ddefnyddio meysydd parcio oddi ar y stryd, ac yn cefnogi dewis ehangach o ddulliau teithio, gan gynnwys cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn cydnabod bod hyn yn newid sylweddol. Ein nod yw rheoli’r galw uchel iawn am barcio ar y promenâd mewn ffordd decach, gwella argaeledd ar gyfer ymweliadau byr, a chefnogi mynediad i ganol y dref i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.”
Yn debyg i ffioedd a thaliadau eraill y Cyngor, mae tariffau parcio yn rhan o’r ffordd rydym yn ariannu gwasanaethau ac yn rheoli’r galw am le cyfyngedig. Mae’r incwm o barcio yn helpu i dalu costau parhaus o ran rheoli a chynnal asedau parcio, yn ogystal â chefnogi gwasanaethau priffyrdd a thrafnidiaeth ledled y sir.
Bydd gyrwyr yn gallu talu mewn peiriannau talu ac arddangos neu drwy ffôn symudol. Bydd deiliaid Bathodynnau Glas yn gallu parcio am ddim yn y lleoliadau hyn, ar yr amod bod bathodyn dilys yn cael ei arddangos yn glir.
Mae tocynnau tymor hefyd ar gael ar gyfer meysydd parcio talu ac arddangos arhosiad hir y Cyngor. Gyda thocyn tymor, gall cost parcio dyddiol fod cyn lleied â 81c y dydd. Gweler mwy o wybodaeth yma: Tocynnau Tymor Meysydd Parcio - Cyngor Sir Ceredigion
12/05/2026