Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn tynnu sylw at waith partneriaeth cryf a chynnydd rhanbarthol yn Sioe Frenhinol Cymru

Daeth Tyfu Canolbarth Cymru â phartneriaid, busnesau a rhanddeiliaid allweddol ynghyd yn Y Sioe Frenhinol Cymru eleni i amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled y rhanbarth i gefnogi twf yn y dyfodol, cryfhau sgiliau a sicrhau buddsoddiad.

Gweithgaredau Tyfu Canolbarth Cymru yn ystod Y Sioe Frenhinol 2026; sgyrsiau, cyflwyniadau a rhwydwithiau.Rhoddodd yr wythnos gyfle i arddangos ehangder y gweithgarwch sydd eisoes ar y gweill ledled Canolbarth Cymru – o sgiliau a hyfforddiant, seilwaith digidol ac ynni, i amaeth-dechnoleg, technoleg bwyd, trafnidiaeth a chyfleoedd buddsoddi ehangach. Roedd pwyslais allweddol ar bwysigrwydd troi uchelgeisiau rhanbarthol yn weithredu ymarferol, gyda thrafodaethau’n tynnu sylw at sut y gellir alinio buddsoddiad, seilwaith, sgiliau ag anghenion cyflogwyr yn well i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau ledled y rhanbarth.

Amlygodd yr wythnos sut mae Canolbarth Cymru yn dod â chynllunio buddsoddiad, seilwaith a sgiliau ynghyd yn gynyddol drwy blatfform cyflawni rhanbarthol aeddfed. Canolbwyntiodd trafodaethau ar sut y gall cynllunio buddsoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, prosiectau Bargen Twf Canolbarth Cymru a rhaglenni rhanbarthol ehangach helpu i ddatblygu ystod o gyfleoedd, gan sicrhau bod darpariaeth sgiliau’r dyfodol yn cyd-fynd âg anghenion cyflogwyr a thwf economaidd hirdymor.

Roedd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys:

• Strategaeth Sgiliau Digidol newydd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Canolbarth Cymru, a fydd yn helpu i lunio’r ffordd y caiff sgiliau digidol eu datblygu ledled y rhanbarth ac a gaiff ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

• Clywed gan aelodau cymuned Launchpad Amaeth-Dechnoleg a Thechnoleg Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru am sut mae cefnogaeth Innovate UK wedi helpu busnesau i ddatblygu, profi a thyfu syniadau arloesol sydd â photensial masnachol.

• Arddangos sut mae Rhaglen Ddigidol Bargen Twf Canolbarth Cymru, gan gynnwys Grant Busnes LoRaWAN, yn helpu busnesau i fabwysiadu technolegau clyfar i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a’r broses o wneud penderfyniadau.

• Dysgu sut mae cyllid a phartneriaethau rhanbarthol yn helpu prosiectau yn y sectorau amaethyddol a choedwigaeth i ymchwilio, profi a datblygu dulliau newydd sy’n cefnogi datgarboneiddio a chynaliadwyedd hirdymor.

• Trafod sut y gall Canolbarth Cymru barhau i adeiladu ar ei gryfderau mewn meysydd gan gynnwys amaethyddiaeth, bwyd a diod, gweithgynhyrchu, twristiaeth, ynni ac arloesedd digidol i greu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Rhoddodd yr wythnos hefyd gyfle gwerthfawr i gyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio parhaus ledled y rhanbarth a thu hwnt.

Mewn datganiad ar y cyd gan Arweinwyr Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a’r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Mae Sioe Frenhinol Cymru unwaith eto wedi darparu cyfle pwysig i arddangos uchelgais, cryfderau a chyfleoedd Canolbarth Cymru. Mae Tyfu Canolbarth Cymru bellach yn symud o strategaeth i gyflawni, gyda gwaith partneriaeth cryf yn helpu i droi blaenoriaethau rhanbarthol yn gamau gweithredu ymarferol. Drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru a’n rhaglen waith ehangach, rydym yn adeiladu’r sylfeini ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, llwybrau sgiliau cryfach a chyfleoedd hirdymor i’n cymunedau a’n busnesau. Mae llawer iawn o waith cadarnhaol yn digwydd ledled y rhanbarth, ac wrth barhau i weithio gyda phartneriaid, cyflogwyr, darparwyr addysg a llywodraethau, gallwn helpu i sicrhau bod Canolbarth Cymru mewn sefyllfa gref i gyflawni ar gyfer y dyfodol.”

Bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i rannu diweddariadau am brosiectau, cyfleoedd a chynnydd rhanbarthol dros y misoedd nesaf. I gael y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am gyfleoedd a diweddariadau prosiectau ledled y rhanbarth, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru yn www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron neu dilynwch Tyfu Canolbarth Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, LinkedIn ac Instagram @growingmidwales. ​​

 

23/07/2026