Mae Ceredigion Ifanc nawr ar TikTok
Mae Porth Cymorth Cynnar, sef y swyddogaeth Cymorth Cynnar ac Atal o fewn model Cymorth a Gofal Llesiant Ceredigion Drwy Oes, wedi lansio ei gyfrif TikTok newydd.

Mae’r cyfrif yn fenter ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid, Ceredigion Actif, y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol, a’r Tîm Magu Plant a Chymorth i Deuluoedd. Bydd y cynnwys yn tynnu sylw at waith y Cyngor sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Ceredigion.
Mae’r lansiad yn dilyn mewnwelediadau a gasglwyd drwy adroddiad Bywyd Ar-lein gan y Gwasanaeth Ieuenctid a Promo Cymru, a amlygodd bwysigrwydd cyrraedd pobl ifanc ar y llwyfannau digidol y maent yn eu defnyddio amlaf.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Mae TikTok yn un o’r llwyfannau mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc, ac mae lansio’r cyfrif hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â nhw mewn ffordd sy’n naturiol, hygyrch ac yn berthnasol i’w bywydau. Mae’r dull cydweithredol hwn yn dathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws ein gwasanaethau ac yn gwneud cymorth yn fwy gweladwy i’r cymunedau sy’n elwa fwyaf ohono.”
Dywedodd person ifanc 14 oed o’r Gwasanaeth Ieuenctid: "Rwy’n meddwl bod y sianel TikTok yn syniad da iawn. Mae’r mwyaf ohonom ni ddim yn gwirio gwefannau na phosteri fel arfer, ond rydyn ni ar TikTok drwy’r amser, felly mae’n helpu ni i weld beth sy’n digwydd a chymryd rhan."
Pam TikTok?
- Gwell ymgysylltiad â’n prif ddemograffig
- Cyfathrebu dan arweiniad cyfoedion a phobl ifanc
- Gwell gwelededd i wasanaethau cymorth
- Diogelu digidol rhagweithiol
- Offeryn pwerus ar gyfer codi ymwybyddiaeth gymunedol
Bydd y cyfrif yn cynnig cynnwys addas ar gyfer pobl ifanc, megis uchafbwyntiau digwyddiadau, cipolwg y tu ôl i’r llenni, cyngor, cyfleoedd a negeseuon dan arweiniad pobl ifanc wedi’u cynllunio i hysbysu, ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc ledled Ceredigion.
Bydd yr holl weithgarwch yn dilyn polisïau diogelu digidol Cyngor Sir Ceredigion, gan sicrhau bod y cyfrif yn aros yn amgylchedd positif, diogel a phriodol ar-lein.
Dilynwch ni ar TikTok: www.tiktok.com/@ceredigionifanc
10/03/2026