Llu o bencampwyr cenedlaethol wedi’u cyhoeddi ymhlith rhestr orlawn o feicwyr ar gyfer Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026
Mae un ar bymtheg o bencampwyr cenedlaethol elît blaenorol ymysg y sawl i’w gwylio ar y llinell ddechrau ar gyfer Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026, a fydd yn dechrau ar ddydd Iau 25 Mehefin yng Nghymru.
Y beicwraig o Gymru, Zoe Backstedt (CANYON // SRAM Zondacrypto) fydd yr un i’w gwylio, ar ôl pencampwriaethau ardderchog yn 2025, lle fe enillodd hi’r crys streipiog ym mhrawf amser y menywod elît, gyda pherfformiad trawiadol yn ras ffordd y menywod elît, gan orffen yn y chweched safle. 
Wrth siarad cyn y pencampwriaethau, dywedodd Backstedt:
“Rwy’n hynod gyffrous i ddod yn ôl i Gymru i gymryd rhan yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol eleni, dydw i ddim yn cael y cyfle i rasio yn y DU yn aml, heb sôn am yng Nghymru, felly mae hynny’n ei wneud yn llawer mwy cyffrous i fod yno. Mae gennym ni restr mor gref o feicwyr yn y DU, felly nid yw’n mynd i fod yn hawdd, ond rwy’n gobeithio y byddaf mewn cyflwr da ar ddechrau’r Pencampwriaethau ac yn brwydro i gyrraedd y brig.”
Mae Millie Couzens (Fenix-Premier Tech) hefyd yn dychwelyd i Gymru, yn barod i amddiffyn ei choron ras ffordd y menywod. Bydd yn wynebu cystadleuaeth galed mewn maes cryf, gan gynnwys y pencampwraig ras ffordd genedlaethol ar dri achlysur, Pfeiffer Georgi (Team Picnic PostNL), y beicwraig sydd ar y brig ar hyn o bryd yng Nghyfres Rasio Ffordd Menywod Lloyds, Morven Yeoman (DAS-Hutchinson), Imogen Wolff (Team Visma | Lease a Bike), Cat Ferguson (Movistar Team), Anna Henderson (Lidl – Trek) a Flora Perkins (Fenix-Premier Tech).
Bydd Sam Watson (NetCompany Ineos) yn anelu at amddiffyn ei deitl yn ras ffordd y dynion, ond bydd yn wynebu llawer o gystadleuaeth. Mae Adam Howell (Bourg-en-Bresse Ain Cyclisme) yn dod i mewn i’r gystadleuaeth fel pencampwr cyfres Rasio Ffordd Agored Cenedlaethol Lloyds 2025, tra bod y cyn-bencampwr cenedlaethol, Ben Swift (NetCompany Ineos), y pencampwr cenedlaethol dan 23 oed presennol, Matthew Brennan (Team Visma | Lease a Bike) ac Ethan Hayter (Soudal Quick-Step) ymhlith y rhai a fydd yn cystadlu i gyrraedd y brig.
Wrth siarad cyn y pencampwriaethau, dywedodd Hayter:
“Mae’n debyg fy mod i’n perfformio orau yn y pencampwriaethau cenedlaethol bob tro. Llwyddais i ennill crys yn 2024 a 2025, felly byddai’n braf ceisio ennill un arall yn y Treial Amser neu’r Ras Ffordd. Mae lefel y gystadleuaeth yn cynyddu bob blwyddyn, ond mae’n golygu y bydd y rasio’n ffyrnig ac yn llawn cyffro.”
Bydd Cameron Mason (Alpecin-Premier Tech Development Team) yn dychwelyd i Aberystwyth i amddiffyn ei goron yn y bencampwriaeth cylchffordd agored. Ymhlith y rhai a fydd yn cystadlu yn ei erbyn bydd pencampwr Cyfres Rasio Cylchffordd Cenedlaethol Lloyds 2025, Thomas Armstrong (Wheelbase Cabtech Castelli) a’r cyn-bencampwyr cylchffordd cenedlaethol Matt Bostock (Rapha Cycling Club) ac Oliver Wood (Rapha Cycling Club).
Bydd Kate Richardson (Handsling Alba Development Road Team) hefyd yn dychwelyd fel pencampwraig bresennol ras gylchffordd y menywod. Yn ail y llynedd, bydd Isabel Sharp hefyd yn cystadlu, bellach ar yr un tîm â Richardson, a gall cefnogwyr hefyd gadw llygad am Carys Lloyd (Movistar Team), Xan Crees (OGT p/b USE), Jenny Holl (Loughborough Lightning) a Josie Knight (DAS-Hutchinson). Byddant i gyd yn ei gwneud yn ornest wefreiddiol.
Bydd llu o feicwyr o Gymru yn cystadlu ar draws y digwyddiad, gan gynnwys Finlay Tarling (NSN Development Team), Elynor Backstedt (UAE Team ADQ), Anna Morris (Aelod Preifat), Owain Doull MBE (Team Visma | Lease a Bike) a Megan Barker (Rapha Cycling Club).
Ar ôl ennill ei theitlau cenedlaethol hŷn cyntaf mewn tymor trac llwyddiannus, bydd Erin Boothman (Liv AlUla Jayco) yn un i’w gwylio yn ras ffordd y menywod a threial amser y menywod dan 23 oed, ac yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dilyn tymor rasio ffordd cryf ar y cyfandir. Bydd Ben Wiggins (Hagens Berman Jayco) hefyd yn dychwelyd i Geredigion, gan obeithio gwneud yn well na’i fedal arian yn y prawf amser dan 23 oed llynedd, a chystadlu yn y ras ffordd.
Mae Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026, sy’n dychwelyd i Gymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig llwyfan ardderchog i feicwyr Prydeinig allu mwynhau ffyrdd cartref a phrofi cefnogaeth ffrindiau, teulu a chefnogwyr lleol.
Mae cyfanswm o 10 crys pencampwr cenedlaethol chwenychedig yn barod i’w cipio ar draws tri diwrnod o rasio, gyda’r treial amser ar ddydd Iau 25 Mehefin 2026, y ras gylchffordd ar ddydd Gwener 26 Mehefin 2026, a’r ras ffordd yn dod â’r bwrlwm i ben ar ddydd Sul 28 Mehefin 2026.
Gellir dod o hyd i’r rhestr feicwyr lawn ar gyfer Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 yma, Prawf Amser; Ras Gylchffordd; Ras y Ffordd
I gael manylion pellach am lwybrau’r holl rasys ym Mhencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds eleni, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am rasys unigol, y lleoliadau a fydd yn cynnal y rasys a’r timau a fydd yn cymryd rhan, cliciwch yma.
Bydd Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 yn dechrau gyda’r treial amser yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau 25 Mehefin 2026. Bydd y menywod elît, y menywod dan 23 oed a’r dynion dan 23 oed yn gwneud dau lap o gylchffordd ddarluniadwy gyda phellter o 25.6km, tra bydd y beicwyr yn y categori dynion elît yn gwneud tri lap gyda phellter o 38.4km.
Bydd Aberystwyth yn cynnal y ras gylchffordd ddydd Gwener 26 Mehefin a’r ras ffordd ddydd Sul 28 Mehefin, gan alluogi cefnogwyr i ddod i wylio eu hoff feicwyr cenedlaethol yn brwydro i gyrraedd y brig.

SWpix.com
17/06/2026