Llongyfarchiadau i ieuenctid Ceredigion yn Ynys Môn
Bu wythnos Eisteddfod yr Urdd yn un arbennig o lwyddiannus i blant a phobl ifanc Ceredigion wrth i’r sir gipio’r wobr am y marciau uchaf ar draws holl gystadlaethau’r Eisteddfod unwaith eto eleni.
Wedi misoedd o baratoi roedd gallu cipio’r brif wobr am y marciau uchaf yn benllanw teilwng i’r holl waith caled, gyda Cheredigion yn cipio 133 o farciau.
Tra bod yr haul yn gwenu ar faes yr Eisteddfod yn Ynys Môn bu unigolion, ysgolion ac Aelwydydd Ceredigion yn cystadlu’n frwd mewn ystod eang o gystadlaethau gan gynnwys cerdd, llefaru, drama, dawnsio, barddoniaeth a llenyddiaeth ynghyd â chystadlaethau gwyddoniaeth, technoleg, celf a sgiliau galwedigaethol.
Braf hefyd oedd gweld Glain Llwyd o Dal-y-bont yn cipio un o brif wobrau‘r wythnos sef y Fedal Ddrama.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae gweld ein plant a’n pobl ifanc yn dod i’r brig yn wych ond efallai mae’r hyn sydd bwysicaf yw’r cyfleoedd mae’r Urdd wedi eu rhoi i ieuenctid y sir i fwynhau profiadau diwylliannol a chreadigol nid yn unig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ond drwy gydol y flwyddyn. Llongyfarchiadau gwresog i’n cystadleuwyr, eu hathrawon, eu hyfforddwyr a’r rhieni a gofalwyr, a diolch hefyd i Swyddogion yr Urdd am bob ysbrydoliaeth.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Mro’r Wenynen, Gwent yn 2027, yna Eryri yn 2028, ac yna bydd Ceredigion yn ei chroesawu yn 2029 yn ystod blwyddyn canmlwyddiant Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
03/06/2026