Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Lansio Gwobrau Caru Ceredigion 2026

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2026, wrth baratoi i ddathlu llwyddiannau eithriadol busnesau, cymunedau ac unigolion y sir am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Bydd Gwobrau Caru Ceredigion 2026, a gynhelir ar y 10fed o Ragfyr yng Nghwesty'r Plu, Aberaeron, yn cydnabod cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau bellach ar agor, gyda 12 categori yn cydnabod llwyddiannau ar draws ystod eang o feysydd. Mae'r categorïau'n cynnwys digwyddiadau llwyddiannus, y diwydiant twristiaeth, entrepreneuriaid ifanc, a gwobr llwybr llwyddiant, sy'n dathlu unigolyn sy'n dilyn prentisiaeth neu raglen hyfforddi gyda busnes neu sefydliad lleol. Mae categori newydd sbon wedi'i gyflwyno eleni, sef gwobr arloesedd a thechnoleg, a fydd yn dathlu busnesau sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn arloesegdd a'r defnydd creadigol o dechnoleg neu feddalwedd i ddatblygu eu busnes, eu cynnyrch, eu gwasanaethau neu eu prosesau gwaith.

Mae croeso i fentrau bach a mawr, sefydliadau dielw, elusennau a grwpiau cymunedol o bob cwr o'r sir gyflwyno cais a bod yn rhan o ddathliad o'r bobl a'r sefydliadau sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd yng Ngheredigion ac yn helpu i wneud y sir yn lle gwell a mwy llewyrchus.

Trefnir y gwobrau gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch sy'n cael ei harwain gan y gymuned, gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella'r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol a chryfhau cymunedau ledled Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:

“Bob dydd, mae unigolion a sefydliadau ledled Ceredigion yn dangos arloesedd, gwydnwch ac ymrwymiad i helpu eu cymunedau i ffynnu. Mae’r gwobrau hyn yn taflu goleuni ar y cyflawniadau hynny ac yn arddangos y dalent, yr uchelgais a’r ysbryd cymunedol sydd i’w gweld ledled y sir. Hoffwn annog busnesau, grwpiau cymunedol, elusennau ac unigolion i gyflwyno cais a’n helpu i ddathlu’r straeon llwyddiant sy’n gwneud Ceredigion yn lle mor arbennig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”

Noddir Gwobrau Caru Ceredigion 2026 gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i gefnogi twf economaidd, mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl a mentrau, a datblygu cyfleoedd sy'n galluogi'r economi i dyfu a ffynnu.

Dywedodd Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

"Mae Gwobrau Caru Ceredigion yn gyfle pwysig i ddathlu'r busnesau, sefydliadau ac unigolion sy'n gwneud cyfraniad hollbwysig i economi a chymunedau Ceredigion. 

"Wrth i ni ddatblygu cyfeiriad newydd ar gyfer economi Cymru, bydd arloesi yn rhan allweddol o'n dull gweithredu - rydym am gefnogi busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, croesawu technolegau newydd, buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, a gwella cynhyrchiant a chystadleudrwydd. 

"Mae’n wych gweld bod gwobr newydd yn cael ei chyflwyno eleni, sef y Wobr Arloesedd a Thechnoleg, sy’n cydnabod busnesau ledled Ceredigion sy'n arloesi i ddatrys heriau, gwella profiadau cwsmeriaid, sbarduno twf cynaliadwy a chreu cyfleoedd newydd."

Er bod Ceredigion yn elwa ar rai o'r cyfraddau goroesi uchaf ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru, gweithlu medrus â lefelau uchel o gymwysterau, a sector gwybodaeth sy'n ffynnu, mae heriau allweddol yn parhau. Ymhlith y rhain mae denu mwy o fusnesau i'r sir, creu swyddi o ansawdd uchel, darparu cyfleoedd i bobl ifanc adeiladu eu gyrfaoedd yn lleol, a 

Mae'r rhestr lawn o gategorïau a meini prawf cymwys i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Caru Ceredigion Awards 2026 - Ceredigion County Council

Mae mynediad i'r gwobrau yn rhad ac am ddim. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 16 Hydref 2026.

Bydd panel o feirniaid arbenigol yn asesu'r ceisiadau yn ystod mis Hydref, cyn cyhoeddi rhestr fer o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Cyhoeddir enillwyr pob categori yn seremoni wobrwyo Gwobrau Caru Ceredigion 2026, a gynhelir ar 10 Rhagfyr 2026 yng Nghwesty'r Plu, Aberaeron.

Am fwy o wybodaeth am Wobrau Caru Ceredigion 2026 ac i gyflwyno eich enwebiadau, ewch i : Caru Ceredigion Awards 2026 - Ceredigion County Council

Os hoffech gysylltu ag aelod o'r tîm, anfonwch e-bost at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

13/08/2026