Gŵyl Canol Unman i roi llwyfan i greadigrwydd gwledig
Mae Cyfeillion Theatr Felinfach a Theatr Felinfach yn gyffrous i gyhoeddi gŵyl newydd sbon, am ddim, ar 19 Medi 2026 i arddangos doniau anhygoel ein cymunedau gwledig.
Bwriad Gŵyl Canol Unman yw cynnig llwyfan i gerddorion lleol, cwmnïau theatr, grwpiau dawns, artistiaid a busnesau lleol, gan eu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd wrth ddod â phobl ynghyd i ddathlu’r iaith Gymraeg, diwylliant lleol a chreadigrwydd.
Mae enw’r ŵyl yn adlewyrchu ein natur wledig, a chymaint o greadigrwydd a thalent sydd yng ‘nghanol unman’.
Yn ystod y diwrnod bydd cyfle i bawb o bob oed gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol gan Theatr Felinfach ac ymarferwyr eraill mewn sesiynau fel adweitheg babis, dawnsio, drama a mwy.
Cewch gyfle i ddod i adnabod busnesau a grwpiau cymunedol, cyfle i siopa, bwyta, yfed a mwynhau’r doniau. Ymhlith y stondinau amrywiol, bydd Olew, Dwdlo, Y Lein a mudiadau lleol fel CFfI Ceredigion a Menter Iaith Cered, a llawer iawn mwy.
O ran arlwy’r adloniant, bydd corau a grwpiau lleol yn diddanu ar y llwyfan agored drwy’r dydd ac i gloi’r Ŵyl, bydd band Pwdin Reis a Bwca ar y llwyfan.
Dywedodd Jan Thomas, Cadeirydd Cyfeillion Theatr Felinfach: Mae’n hynod o gyffrous i Gyfeillion Theatr Felinfach gydweithio gyda’r theatr i lansio’r ŵyl newydd sbon hon. Er mai Gŵyl Canol Unman yw ei henw, gobeithio bydd Theatr Felinfach yng nghanol bob man, yng nghanol mis Medi, gan gynnig rhywbeth i bawb gyda gweithgareddau ac adloniant am ddim i ddathlu creadigrwydd ein bro wledig”.
Ychwanegodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’r nifer o noddwyr a chefnogwyr lleol sydd, mewn ffyrdd mawr a bach, yn helpu i wneud ein gwaith yn bosibl. Mae’r gefnogaeth honno gan ein cymuned leol yn golygu cymaint i ni.”
Am wybodaeth bellach am yr ŵyl, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach: 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
Neu dilynwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol newydd Cyfeillion Theatr Felinfach:
Facebook: Cyfeillion Theatr Felinfach – Friends of Theatr Felinfach
Instagram: @cyfeilliontheatrfelinfach
21/08/2026