Gwyddoniaeth gymunedol a monitro arfordirol yn cymryd y llwyfan yng nghynhadledd forol Ceredigion
Mae trigolion, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelu arfordir Ceredigion yn cael eu gwahodd i fynychu Cynhadledd Monitro Morol ar 18 Chwefror yng Nghastell Aberteifi. Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae arfordir Ceredigion yn cael ei ddeall yn well a’i ddiogelu drwy brosiect dan arweiniad y gymuned sy’n dod â phobl leol ac arbenigwyr ynghyd i fonitro ansawdd dŵr — a bydd hefyd yn egluro sut y gall eraill gymryd rhan.
Mae’r gynhadledd yn tynnu sylw at brosiect Monitro Maetholion Morol, rhaglen sy’n cefnogi gwirfoddolwyr, arbenigwyr amgylcheddol a sefydliadau partner i ddeall yn well beth sy’n digwydd mewn afonydd, aberoedd a dyfroedd arfordirol lleol, a pham mae hyn yn bwysig ar gyfer iechyd hirdymor yr amgylchedd morol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwirfoddolwyr lleol – a elwir yn wyddonwyr dinasyddion – wedi bod yn profi ansawdd dŵr mewn afonydd gan ddefnyddio citiau llaw syml. Mae’r gwaith hwn bellach yn cael ei ehangu i gynnwys lleoliadau arfordirol, aberol ac agos at y lan, gan helpu i nodi lle gall gormodedd o faetholion fod yn effeithio ar gynefinoedd morol sensitif.
Dywedodd Dr John Carvell, gwyddonydd dinasyddion gwirfoddol: “Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi bod yn hynod werth chweil, gan fod y profion wythnosol drwy’r flwyddyn yn Cei Newydd, yn enwedig y cyfrifiadau bacteriol cyflym, yn gallu rhoi sicrwydd i ymdrochwyr ynghylch ansawdd dŵr y môr.”
Mae monitro dan arweiniad gwirfoddolwyr yn cael ei gefnogi gan dechnoleg newydd sydd wedi’i gosod ar hyd yr arfordir. Cafodd gorsaf synhwyrydd morol ei gosod yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2025, ac mae ail un yn cael ei chynllunio ar gyfer Cei Newydd yn gynnar yn 2026. Mae’r synwyryddion hyn yn casglu gwybodaeth yn awtomatig, gan ddarparu data parhaus sy’n ategu’r gwaith a wneir gan wyddonwyr dinasyddion.
Mae’r holl wybodaeth a gesglir drwy’r prosiect yn cael ei bwydo i ddangosfwrdd arfordirol a morol byw, sy’n caniatáu i dueddiadau mewn ansawdd dŵr gael eu gweld a’u rhannu â phartneriaid, llunwyr penderfyniadau a’r cyhoedd. Dyma'r dolen i ddangosfwrdd Adroddiad Monitro Dyfroedd Arfordirol ac Aberol Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/public/csr/ceredigion_coastal_complete_water_quality_report_cy.html
Bydd y Gynhadledd Monitro Morol yn cael ei chynnal rhwng 10am a 3pm ar 18 Chwefror ac mae’n agored i bawb. Bydd yn dod â gwirfoddolwyr, arbenigwyr amgylcheddol, awdurdodau lleol a sefydliadau partner ynghyd i rannu cynnydd, trafod heriau ac archwilio sut y gall cymunedau chwarae rhan wrth ddiogelu arfordir Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli Maetholion: “Mae’r prosiect hwn yn dangos gwerth gwirioneddol cyfuno monitro proffesiynol â gwybodaeth leol a chynnwys cymunedol. Drwy gefnogi gwyddonwyr dinasyddion a buddsoddi mewn offer monitro modern, rydym yn adeiladu darlun manylach o iechyd ein dyfroedd arfordirol a sut orau i’w diogelu ar gyfer y dyfodol.”
Gall pobl sydd â diddordeb mewn mynychu gofrestru drwy Eventbrite:
https://www.eventbrite.com/e/ceredigion-marine-nutrient-monitoring-project-tickets-1978380145271?aff=oddtdtcreator
Mae prosiect Monitro Maetholion Morol yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ei weinyddu gan dîm Cynnal y Cardi, Cyngor Sir Ceredigion, a’i gyflawni ar y cyd â Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru a’i randdeiliaid.
20/01/2026