Gwobrwyo Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2026
Mae tri pherson ifanc lleol wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages.
Mae Bwrsari Ieuenctid Ceredigion yn ei nawfed flwyddyn, gyda busnes lleol West Wales Holiday Cottages yn cynnig £1,500 i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i’w helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Ers ei sefydlu, mae 22 person ifanc wedi derbyn cefnogaeth gan Fwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Derbyniwyd nifer uchel o geisiadau eleni, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau am hyfforddiant.
Dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ofalus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion (Panel Dewis) dros wyliau’r haf. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynwyd dyfarnu'r fwrsariaeth i dri ymgeisydd llwyddiannus, am eu syniadau arloesol a'r effaith bosibl ar eu bywydau a'u cymunedau yng Ngheredigion.
Derbyniodd Martha Silvestri-Jones, 13 oed, Chloe Jones, 23 oed a Ollie Reilly, 15 oed i gyd fwrsariaeth i’w cefnogi i gyrraedd eu nodau personol mewn chwaraeon, menter fusnes a llwybr gyrfa mewn crefft.
Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni unwaith eto eleni. Fel ni, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod gwerth buddsoddi yn ein pobl ifanc, er mwyn eu cefnogi i gyrraedd eu potensial. Mae’n gyfle gwych i gydweithio â busnes lleol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r cyfle hwn hefyd yn brofiad da i aelodau ein Fforwm Ieuenctid a wnaeth yn dda iawn wrth wneud rhai penderfyniadau anodd.”
Gwahoddwyd yr enillwyr i gyfarfod cyflwyno yn Theatr Felinfach, Felinfach ar 30 Medi 2026 er mwyn cyflwyno siec a dathlu ei llwyddiannau.
Dywedodd Lisa Stopher, Cyfarwyddwr West Wales Holiday Cottages: “Mae'n fraint i West Wales Holiday Cottages noddi Bwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Rydym yn falch iawn o ddathlu talent, ymroddiad a gwaith caled y bobl ifanc yn ein cymuned a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu breuddwydion. Mae enillwyr y Fwrsariaeth yn cynrychioli'r gorau o ddyfodol Ceredigion, ac mae eu hangerdd, eu gwytnwch a'u hymrwymiad gwir yn ysbrydoledig.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gyflwynodd ceisiadau cryf ar gyfer y fwrsariaeth hon. Roedd hi’n bleser gweld dyheadau a mentergarwch cyffrous y bobl ifanc ac rwy’n falch iawn eu bod yn cael cydnabod gyda’r fwrsariaeth arbennig hon. Pob lwc i nhw yn y dyfodol.”
Bydd rhagor o wybodaeth am y fwrsariaeth flwyddyn nesaf ar gael yn 2027.
19/10/2026