Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwaith Amddiffyn Arfordirol Dros Dro Aberaeron

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn draenio Mynedfa Harbwr Aberaeron rhwng 16 Ebrill a 23 Ebrill 2026.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn hefyd yn cwblhau gwaith dros dro ar y grwyn carreg (rock groyne) gerllaw Pier y De, er mwyn helpu i leihau graean rhag cronni ac i gynnal mynediad diogel i’r harbwr. Mae’r gwaith hwn yn fesur dros dro wrth i ni barhau i ddatblygu ateb hirdymor i’r broblem o gerrig man yn cronni. 

Rydym yn deall bod pryderon ynghylch y deunydd sy’n parhau i gronni wrth fynedfa’r harbwr. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hymgynghorwyr dylunio i ddatblygu ateb cynaliadwy hirdymor, a byddwn yn ymgynghori â CNC trwy gydol y broses. 

Ein prif flaenoriaeth yw cadw mynediad i’r harbwr yn agored ac yn ddiogel i bawb sy’n ei ddefnyddio. 

02/04/2026