Grant mawr gan Lywodraeth Cymru i hybu diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae cymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar fin elwa o fuddsoddiad diwylliannol mawr, wrth i'r rhanbarth sicrhau grant a ddyfarnwyd o dan ffrwd ariannu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.
Bydd y prosiect, sy'n werth £239,609, yn rhedeg tan fis Hydref 2026, a'i nod yw cryfhau cyfleoedd diwylliannol gan lunio gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol tra'n cyd-fynd â Blaenoriaethau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglen gydweithredol rhwng Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gan ganolbwyntio ar greu gweledigaeth ddiwylliannol hirdymor ar gyfer y rhanbarth, gan sicrhau bod lleisiau lleol yn llunio cynlluniau i'r dyfodol.
Bydd pob sir hefyd yn cyflwyno prosiect o fis Ebrill 2026, wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Bydd Rheolwr Prosiect yn cydlynu cyflawni ac yn ceisio cyllid pellach i barhau â'r cydweithrediad rhanbarthol y tu hwnt i 2026.
Bydd y rhaglen uchelgeisiol hon yn cryfhau cydweithredu diwylliannol ar draws y rhanbarth, gan sicrhau bod blaenoriaethau lleol wedi'u hymgorffori mewn gweledigaeth strategol a rennir. Mae'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol diwylliannol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Mae diwylliant yn siapio pwy ydym ni a sut rydyn ni'n cysylltu â'n gilydd. Bydd y rhaglen hon yn caniatáu inni ddathlu ein ffyrdd NI o fod, o weld ac o greu. Bydd gweithio tuag at weledigaeth a rennir ar gyfer y rhanbarth yn cryfhau ein bywyd diwylliannol."
Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet Powys dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol, "Mae hyn yn newyddion gwych i'n cymunedau. Mae diwylliant yn ymwneud â chysylltiad, hunaniaeth a chyfle, a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan. Trwy weithio gyda'n gilydd ar draws y rhanbarth, gallwn greu rhywbeth gwirioneddol arbennig i Ganolbarth a Gorllewin Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Bydd y cyllid hwn yn rhoi diwylliant wrth wraidd ein cymunedau. Trwy weithio ar y cyd, gallwn sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb, yn dathlu ein hunaniaeth a'n hamrywiaeth leol unigryw, ac yn cefnogi lles a chynaliadwyedd hirdymor ein sir a'n rhanbarth."
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett "Rydym yn gyffrous i weld sut y bydd y cydweithrediad hwn yn dod â chyfleoedd newydd i bobl ymgysylltu â diwylliant mewn ffyrdd sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'n gyfle i wneud diwylliant yn rhan ganolog o fywyd bob dydd."
06/02/2026