Ffilm gymunedol sy'n dathlu cysylltiad Ceredigion â'r môr i'w lansio yn yr Ŵyl Natur
Bydd ffilm gymunedol newydd sy'n dathlu arfordir Ceredigion ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd morol yn cael ei lansio yn ystod Gŵyl Natur Ceredigion ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.
Mae Diolch, Môr – Thank You, Sea wedi'i chynhyrchu gan Parents for Future Ceredigion, cangen leol o sefydliad cenedlaethol sy'n gweithio i sicrhau dyfodol mwy diogel a thecach i blant. Mae'r ffilm yn dod â lleisiau, profiadau ac atgofion pobl leol o bob rhan o'r sir ynghyd, gan archwilio beth mae'r môr yn ei olygu iddynt a pham ei bod yn bwysig ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Wedi'i hysbrydoli gan ddangosiad cyhoeddus o Ocean with David Attenborough yn Aberystwyth yn gynharach eleni, gwahoddodd y prosiect bobl ledled Ceredigion i rannu ffilmiau a straeon personol yn dathlu eu cysylltiad â'r môr a'r amgylchedd arfordirol.
Cyfrannodd dros 30 o bobl at y prosiect. Wedi'i chynhyrchu a'i golygu gan Steve Buckley, a gyda chefnogaeth ariannol gan Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion, mae'r ffilm yn dilyn taith dŵr o'r tarddle i'r môr gan amlygu'r angen i ddiogelu cynefinoedd morol rhag llygredd.
Mae'r ffilm yn cynnwys y trac Y Pipydd Coch gan Cerys Hafana o'i halbwm Edyf, a ddefnyddiwyd gyda'i chaniatâd caredig. Darparwyd y cyfieithiad Cymraeg gan Mari Ellis-Dunning.
Dywedodd Gill Clark, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn. Mae'n ein hatgoffa'n bwerus o gymaint mae'r môr yn ei olygu i'n cymunedau a pham bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn ei warchod."
Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon:
"Mae'n ysbrydoledig gweld pobl leol yn dod ynghyd i ddathlu a diogelu'r amgylchedd sy'n gwneud Ceredigion mor arbennig. Mae'r ffilm hon yn amlygu'r cysylltiad cryf sydd gan ein cymunedau â'r môr ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn longyfarch Parents for Future Ceredigion ar y prosiect cymunedol gwych hwn a dymuno pob llwyddiant iddynt gyda'i lansiad yng Ngŵyl Natur Ceredigion."
Dywedodd Cathy Cole, Cydlynydd y Ffilm:
"Rydym yn gobeithio y bydd y ffilm hon yn taro tant gyda phobl ledled canolbarth Cymru, gan ddatgelu rhywfaint o harddwch y byd o dan y tonnau yn ogystal â phwysigrwydd ein traethau a'n morluniau i gynifer ohonom yma yng Ngheredigion."
Bydd Diolch, Môr – Thank You, Sea yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Natur Ceredigion ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf ac yna bydd ar gael i'w gwylio ar-lein drwy Natur Ceredigion ac ar sianel YouTube Parents for Future Ceredigion.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Natur Ceredigion, ewch i wefan Natur Ceredigion.
09/07/2026