Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

‘Ein Cegin’ yn cryfhau cysylltiadau cymunedol drwy fwyd, creadigrwydd a thwf cynaliadwy

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar deuluoedd ledled y DU, mae bron un o bob pedwar rhiant sy’n gweithio bellach yn dibynnu ar fanciau bwyd. Mewn ymateb i’r angen cynyddol hwn, mae Ein Cegin yn Aberteifi wedi datblygu model arloesol dan arweiniad y gymuned sy’n cael ei gydnabod fel patrwm ar gyfer trefi eraill yng Ngheredigion.

Wedi’i leoli yn Neuadd y Dref Aberteifi, neuadd sydd wedi’i adfywio’n sylweddol yn ddiweddar gyda chefnogaeth cyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae'r gwelliannau wedi gwella ffocws cymunedol yr adeilad, gwella profiad cwsmeriaid, a galluogi dychwelyd gweithgarwch y farchnad a busnesau presennol yn llwyddiannus.

Mae Ein Cegin yn cefnogi’r Farchnad Ffermwyr wrth darparu rhaglen fywiog o brosiectau celf gymunedol a gweithdai coginio mewn partneriaeth â sefydliadau ac artistiaid lleol.

Mae'r fenter yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) a'i chyflawni gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Mae'n ymateb yn uniongyrchol i'r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023–2028.

Mae ymchwil yn dangos bod gan Geredigion un o’r cyfraddau tlodi plant uchaf yng Nghymru, gyda thua 30% o blant yn cael eu heffeithio. Nod Ein Cegin yw gwella mynediad at fwyd ffres, tymhorol a chynhyrchion lleol, gan gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy a’r trawsnewid tuag at net sero.

Mae’r Farchnad Ffermwyr newydd wedi creu cyfleoedd i dros ugain o gynhyrchwyr lleol gyrraedd cwsmeriaid newydd, gan gryfhau economi fwyd leol y dref. Mae’r farchnad yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu mynediad at gynnyrch maethlon, yn enwedig i deuluoedd sy’n wynebu caledi.

Yn ogystal, mae gweithdai celf tecstilau a sesiynau coginio ymarferol wedi meithrin sgiliau, hyder ac ymdeimlad o berthyn ymhlith cyfranogwyr. Mae’r baneri clytwaith a grëwyd ar y cyd bellach yn ymddangos yn falch yn neuadd y dref, yn symbol o berchnogaeth gymunedol.

Wrth gyfuno mynediad at fwyd, addysg, creadigrwydd a chynaliadwyedd, mae Ein Cegin yn dangos sut y gall marchnadoedd lleol weithredu fel canolfannau gwydnwch cymunedol — model ymarferol y gellir ei efelychu ledled Ceredigion.

Dywedodd Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: "Mae Ein Cegin yn dangos yn glir beth sy’n bosibl pan fydd cymuned gyfan yn dod at ei gilydd. Wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, mae’r fenter hon nid yn unig yn gwella mynediad at fwyd iach, ond hefyd yn cryfhau ein heconomi leol ac yn adeiladu gwydnwch cymunedol. Mae’n fodel ysbrydoledig i’r dref a’r sir gyfan."

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi drwy e-bost at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

23/02/2026