Dysgu rhywbeth newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion Ceredigion
Mae Dysgu Bro Ceredigion yn gwahodd trigolion i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, a gynhelir rhwng dydd Llun 7 a dydd Gwener 11 Medi 2026.
Cynhelir rhaglen o weithgareddau am ddim mewn lleoliadau ledled y sir, gan gynnwys Aberteifi, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberystwyth, yn ogystal â un sesiwn ar-lein.
Bydd yr wythnos yn cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau digidol a chreadigol, dysgu rhagor am hanes teulu, archwilio opsiynau gyrfa a rhoi cynnig ar weithgareddau sy’n cefnogi lles. Mae’r digwyddiadau wedi’u cynllunio i fod yn groesawgar ac yn hygyrch, boed rhywun yn dychwelyd i ddysgu, yn awyddus i ddatblygu sgìl newydd neu’n syml, am roi cynnig ar rywbeth gwahanol.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i bobl o bob oed a chefndir ddarganfod yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yma yng Ngheredigion. Gall dysgu sgìl newydd helpu i feithrin hyder, agor drysau i gyfleoedd newydd a dod â phobl ynghyd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i edrych ar y rhaglen, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gweld i ble y gallai dysgu fynd â nhw.”
Rhaglen y digwyddiadau
Dydd Llun 7 Medi, Aberteifi
- Sesiwn galw heibio cymorth gyda dyfeisiau
- 10:00am–12:00pm
- Y Festri, Aberteifi
- Cymorth un i un gyda ffonau symudol, tabledi neu liniaduron. Nid oes angen apwyntiad.
Dydd Llun 7 Medi, Aberteifi
- ‘Byddwch yn Greadigol’
- Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol: 10:30am–11:30am
- Golygu Lluniau: 1:00pm–3:00pm
- Hwb Y Festri, Aberteifi, SA43 1DB
- Mae’r sesiynau am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.
Dydd Mawrth 8 Medi, Aberaeron
- Digwyddiad Llwybr Gyrfa
- 10:00am–2:00pm
- Gwesty’r Feathers, Aberaeron
- Cymorth ymarferol i feithrin hyder, ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
Dydd Mercher 9 Medi, Llanbedr Pont Steffan
- Cyflwyniad i adweitheg
- 10:00am–11:30am
- Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan
- Cyfle i ddysgu beth yw adweitheg, sut mae’n gweithio a sut y gall gefnogi ymlacio a lles.
Dydd Mercher 9 Medi, ar-lein
- Celf Ddigidol
- 6:00pm–8:00pm
- Ar-lein
- Mae’r sesiwn am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.
Dydd Iau 10 Medi, Llandysul
- Digwyddiad Hanes Teulu Llandysul
- 10:30am–3:00pm
- Canolfan Llandysul, Stryd yr Eglwys, Llandysul, SA44 4QS
- Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniad i hanes teulu, taith dywys o amgylch Eglwys Sant Tysul, adfer hen ffotograffau, sgyrsiau hanes lleol, straeon i blant, crefftau, cwisiau, te a chacen.
Dydd Iau 10 Medi, Llandysul
- Sesiwn galw heibio cymorth gyda dyfeisiau
- 10:00am–12:00pm
- Llyfrgell Llandysul
- Cymorth un i un gyda ffonau symudol, tabledi neu liniaduron. Nid oes angen apwyntiad.
Dydd Gwener 11 Medi, Aberystwyth
- ‘Byddwch yn Greadigol’
- Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol: 10:30am–11:30am
- Golygu Lluniau: 1:00pm–3:00pm
- Llyfrgell Ceredigion, Aberystwyth, SY23 2EB
- Mae’r sesiynau am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.
I archebu lle neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion drwy ffonio 01970 633 540 neu anfon e-bost at admin@dysgubro.org.uk.
28/08/2026