Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud yn ymgynghoriad prisiau tacsi Ceredigion

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor i gasglu barn ar gynnydd arfaethedig mewn prisiau tacsis yng Ngheredigion.

Daw hyn yn dilyn cais gan gwmni tacsi lleol yn gofyn i Gyngor Sir Ceredigion gynyddu prisiau tacsis, gan nodi costau gweithredu cynyddol – tanwydd, cynnal a chadw, cyflogau a chostau cerbydau.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i edrych ar geisiadau fel hyn, ac nid yw prisiau tacsis wedi newid ers 2022.

Gofynnodd y cwmni tacsi am £1 ychwanegol i gael ei ychwanegu at yr hanner milltir gyntaf, a 2c ychwanegol fesul 1/10fed o filltir ar ôl hynny. Ar y cyfan, byddai hyn yn golygu cynnydd cyfartalog o 23.7% ar draws pob pris.

Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu costau cynyddol a byddai'n gwneud prisiau Ceredigion yn debycach i gynghorau cyfagos fel Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

Fodd bynnag, awgrymodd Pwyllgor Trwyddedu Cyngor Sir Ceredigion gynnydd o 7% yn hytrach na'r cynnydd uwch y gofynnwyd amdanynt a bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal i gasglu barn ehangach.

Enghraifft o'r cynnydd o 7% (wedi’i symleiddio) 

Tariff

½ Milltir 
Cyntaf 
Presennol 

Cynnydd 7% 
i’r ½ Milltir 
Cyntaf

Fesul 1/10 
milltir ar hyn o 
bryd 

Cynnydd o 7% Fesul 
1/10 milltir  

1

£3.50

£3.70

£0.22 

£0.25

2

£4.00

£4.20

£0.25 

£0.25

3

£4.00

£4.20

£0.28 

£0.30

4

£6.00

£6.40

£0.37

£0.40

5

£4.00

£4.20

£0.31 

£0.35

6

£5.00

£5.30

£0.37 

£0.40

7

£7.00

£7.40

£0.49

£0.50

Ffioedd amser
aros (y funud)


£0.25 


£0.25 


-


-

 

I ddweud eich dweud ar brisiau tacsis yng Ngheredigion, cwblhewch y ffurflen ar-lein sydd i'w gweld ar ein gwefan: Cynnydd arfaethedig mewn tocynnau tacsi

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 08 Mai 2026

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i'r Tîm Licenicing, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

13/04/2026