Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer Ardal Gadwraeth Llansanffraid

Mae ardaloedd cadwraeth yn lleoedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i'w hadolygu'n rheolaidd a chynnig ffyrdd o gadw a gwella eu cymeriad.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn paratoi Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli drafft ar gyfer Llansanffraid. Mae'r Arfarniad yn nodi'r nodweddion sy'n gwneud Llansanffraid yn arbennig, yn ogystal ag unrhyw heriau neu gyfleoedd a allai effeithio ar yr ardal. Mae hyn yn ffurfio'r sylfaen ar gyfer Cynllun Rheoli manylach sy'n nodi'r camau gweithredu a fydd yn rhoi sylw i'r materion hynny a chefnogi cadwraeth hirdymor yr ardal.

Bwriad y Cyngor yw mabwysiadu Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Llansanffraid fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA). Mae hyn yn golygu y bydd yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar yr Ardal Gadwraeth.

Fodd bynnag, hoffem glywed eich barn ar y ddogfen ddrafft yn gyntaf. Bydd eich adborth yn helpu i lunio fersiwn derfynol yr Arfarniad a'r Cynllun Rheoli.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae Llansanffraid yn ardal sydd â chymeriad unigryw a threftadaeth bwysig. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl leol helpu i lunio sut y caiff y cymeriad hwnnw ei ddiogelu a’i wella ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn yr ardal i ddweud eu dweud.”

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i weld y ddogfen ac ymateb i'r ymgynghoriad, ar gael ar Dudalen Ymgynghoriadau ar wefan y Cyngor: Arfarniad Ardal Gadwraeth a Chynllun

Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan 24 Rhagfyr 2026. Bydd pob sylw yn cael ei gydnabod a'i gyhoeddi.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych, anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofyn am yr adran Polisi Cynllunio.

11/11/2026