Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud ar gyfyngiadau cŵn ar Draeth Borth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion, defnyddwyr y traeth a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar ddyfodol cyfyngiadau tymhorol ar gŵn ar ran o Draeth Borth.

Mae’r rhan o’r traeth o orsaf yr RNLI tuag at y clogwyni o dan Cliff Road wedi bod yn destun Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ers 2014, gan gyfyngu ar gŵn rhwng 1 Mai a 30 Medi. Mae’r PSPO wedi cael ei adnewyddu bob tair blynedd yn flaenorol, a daeth i ben ym mis Hydref 2026.

Mae’r Cyngor bellach yn gofyn am farn ynghylch a ddylid adnewyddu’r PSPO am dair blynedd arall.

Mae trigolion, ymwelwyr, teuluoedd, perchnogion cŵn ac eraill yn mwynhau Traeth Borth drwy gydol y flwyddyn. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, mae’r Cyngor am glywed gan y rhai sy’n adnabod ac yn defnyddio’r ardal, yn enwedig trigolion Borth a’r rhai sy’n defnyddio’r traeth yn rheolaidd

Mae’r PSPO ar wahân i’r is-ddeddf hirsefydlog sy’n cyfyngu ar gŵn ar y rhan o’r traeth o’r Hostel Ieuenctid ar y Stryd Fawr tua’r de i orsaf yr RNLI. Nid yw’r is-ddeddf hon yn rhan o’r ymgynghoriad ac nid oes angen ei hadnewyddu.

Bydd yr adborth yn helpu’r Cyngor i ddeall sut mae’r trefniadau presennol yn effeithio ar wahanol ddefnyddwyr y traeth, beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella.

Dywedodd Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd:

“Mae Traeth Borth yn rhan bwysig o’r gymuned ac yn cael ei fwynhau gan lawer o wahanol bobl drwy gydol y flwyddyn. Rydym am glywed gan y rhai sy’n adnabod ac yn defnyddio’r traeth fel y gall eu barn helpu i lywio’r camau nesaf. Byddwn yn annog trigolion a defnyddwyr y traeth i dreulio ychydig funudau yn ymateb i’r ymgynghoriad neu i ddod draw i’r sesiwn galw heibio.”

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 23 Rhagfyr 2026. Gellir ymateb drwy lenwi holiadur ar-lein neu gopi papur.

Cynhelir sesiwn galw heibio yn Neuadd Gymunedol Borth ar 26 Tachwedd, rhwng 12pm a 7pm, lle bydd swyddogion y Cyngor ar gael i ateb cwestiynau. Bydd holiaduron papur hefyd ar gael ar y diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth a’r holiadur ar gael ar dudalen Ymgynghoriadau gwefan y Cyngor - Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Borth - Cyngor Sir Ceredigion

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch diogelucyhoedd@ceredigion.llyw.cymru neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch am aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd.

12/11/2026