Dolen gyswllt newydd ar gyfer teithio llesol gam yn agosach wrth i gynllun Waunfawr i IBERS ddod yn ei flaen
Cam 2 bellach wedi’i gwblhau, Cam 3 i ddechrau ym mis Gorffennaf, a gwelliannau diogelwch wrth gyffordd eisoes ar waith

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun teithio llesol Waunfawr i IBERS, gyda Cham 2 y llwybr cyd-ddefnyddio bellach wedi’i gwblhau wrth ochr cefnffordd yr A487 ger Comins Coch.
Cyflawnwyd y cam hwn gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, ac mae hefyd yn cynnwys newidiadau wrth gyffordd Dorglwyd i gyd-fynd â’r cynllun ehangach, ac i wella diogelwch i draffig sy’n troi.
Mae’r gyffordd wedi’i had-drefnu erbyn hyn a gofynnir i yrwyr fod yn ofalus a chadw llygad am feicwyr a cherddwyr sy’n croesi yno.
Mae disgwyl i’r cam nesaf fynd yn ei flaen ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion sicrhau arian grant gan Lywodraeth Cymru. Mae contractwr lleol wedi’i benodi a disgwylir i Gam 3 ddechrau ym mis Gorffennaf 2026.
Bydd Cam 3 yn cwblhau’r llwybr cyd-ddefnyddio wrth ymyl yr C1010 rhwng Bythynnod Splash a chyffordd cefnffordd yr A487. Yn ogystal bydd yn cynnwys cwlfert a phont newydd dros Afon Peithyll ger maes parcio Pwll Crwn, gan helpu i fynd i’r afael â phroblemau llifogydd yn ddiweddar yn yr ardal.
Bydd gofyn cau’r ffordd yn llawn tra bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud. Ar yr adeg honno ni fydd mynediad i faes parcio Pwll Crwn a dim llwybr trwodd i feicwyr a cherddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, yr Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rwy’n falch iawn o weld y prosiect hwn yn dod i fwcwl, gan gysylltu Waunfawr a Chomins Coch gydag IBERS ac wedyn cysylltu â’r ddarpariaeth teithio llesol bresennol i Benrhyn-coch a Bow Street. Bydd gan holl ddefnyddwyr y llwybr yma drywydd diogel ar gyfer cerdded, olwynio a beicio i mewn ac allan o Aberystwyth. Rwy’n llongyfarch ein swyddogion sydd wedi gweithio’n galed i gael sêl bendith Llywodraeth Cymru i Gynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, a sicrhau’r cyllid angenrheidiol i gwblhau’r prosiect hwn. Mae gwella diogelwch wrth gyffordd Dorglwyd yn destun balchder yn enwedig.”
17/06/2026