Diwrnod Agored llwyddiannus arall ar Fferm Llettytwppa
Cynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus ar Fferm Llettytwppa ar 06 Mawrth 2026. Daeth cyfanswm o 226 o bobl, gan gynnwys darparwyr, cwmnïau, sefydliadau, aelodau’r gymuned, unigolion â diddordeb yn natblygiad y fferm a darpar-ddysgwyr oedd am ddysgu mwy am cyrsiau a’r cyfleoedd hyfforddi a fydd ar gael ar y fferm.

Roedd y digwyddiad hwn yn dilyn noson ymgysylltu gadarnhaol ac yna dau ddiwrnod agored hynod lwyddiannus ym mis Rhagfyr y llynedd, pan groesawyd tua 160 o ddisgyblion o Flwyddyn 10–13 o ysgolion ledled Ceredigion.
Yn ystod y diwrnod agored diweddar, cafodd yr ymwelwyr gyfle i archwilio’r cyfleoedd hyfforddi fydd yn cael eu cynnig yn Llettytwppa o fis Medi 2026 ymlaen, sy’n cynnwys cyrisau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a Phrentisiaeth Lefel 3 mewn amaethyddiaeth, trwy Hyfforddiant Ceredigion.
Roedd cynrychiolaeth o fusnesau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r sector amaethyddol yn bresennol drwy’r dydd, gydag arddangosiadau amrywiol ac yn darparu gweithgareddau ymarferol, megis ffensio, treialon cwn defaid, creu pocer â ffwrnais nwy, tasgau cynnal a chadw (gan gynnwys ail-doi), a thasg sodro (soldering).

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Roedd yn galonogol gweld cymaint o ddiddordeb yn natblygiad Fferm Llettytwppa. Bydd y fferm yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i aros, dysgu a ffynnu yn eu cymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni yn ystod y diwrnod agored ac am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth.”
Cafwyd hefyd gyfle i ddysgu mwy am ystyr a tharddiad enw’r fferm. Yn ôl cyfrol Iwan Wmffre, The Place-Names of Cardiganshire (Oxford, 2004), mae’r ‘twppa’ yn cyfeirio at gyfenw neu epithet unigolyn, sef Gruffith ap Ievan ap David Twppa, a oedd yn ficer yn Llanbedr yn 1468-9. Yn ogystal â hyn, esbonia Dai Davies, cyn-berchennog y fferm, mai yn Lletttytwppa yr arferid cadw twb mawr fyddai’n cael ei ddefnyddio i fesur cnydau. Byddai ffermwyr yr ardal yn dod i Lettytwppa i fenthyg y twb hwn er mwyn mesur cnydau fel barlys a gwenith, cyn ei ddychwelyd i’r fferm lle câi ei gadw. Tybed a ydych chi wedi clywed esboniad arall?
12/03/2026