Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diweddariad Storm Goretti – cymerwch ofal wrth deithio

Disgwylir tywydd garw ac amodau gyrru heriol dros yr oriau nesaf (dydd Iau 08 Ionawr) ac yfory (dydd Gwener 09 Ionawr) wrth i Storm Goretti daro Ceredigion.

Mae rhybudd Melyn am wynt a glaw mewn grym yng Ngheredigion; yn ogystal â rhybudd Melyn am eira a rhybudd Ambr am eira yn nwyrain y sir. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion tywydd hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd: UK weather warnings - Met Office

Disgwylir i’r tywydd arwain at amodau teithio peryglus ac amhariadau i wasanaethau. Bydd criwiau allan yn trin/graeanu’r priffyrdd ar ein Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw dros nos, yn ôl yr angen.

Os oes rhaid i chi deithio, cadwch lygad ar ragolygon tywydd ar gwefan y Swyddfa Dywydd, a byddwch yn ofalus iawn ar eich teithiau.

Gellir dod o hyd i gyngor ar yrru yn ystod y gaeaf ar ein tudalen Gyrru yn y gaeaf.

Cadwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau pellach.

Am ragor o wybodaeth am ein priffyrdd dros y gaeaf, sy’n cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin, ewch i'r tudalen Priffyrdd dros y gaeaf.

08/01/2026