Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Disgyblion Ceredigion yn derbyn hyfforddiant CPR a diffibrilwyr i achub bywydau

Mae disgyblion ysgolion uwchradd ledled Ceredigion yn derbyn hyfforddiant CPR a diffibrilwyr am ddim drwy raglen newydd sy'n ceisio rhoi'r sgiliau a'r hyder i bobl ifanc ymateb mewn argyfwng.

Mae'r fenter yn cael ei chynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2026-27 drwy bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Ysgolion Cyngor Sir Ceredigion, Achub Bywyd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).

Bydd pob disgybl Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10 yn ysgolion Uwchradd a Gydol-Oed Ceredigion, yn ogystal â disgyblion sy'n mynychu'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD), yn derbyn hyfforddiant wyneb yn wyneb ar adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibriliwr allanol awtomataidd (AED).

Bydd y rhaglen yn dysgu disgyblion sut i adnabod ataliad ar y galon, rhoi CPR a defnyddio diffibriliwr, gan roi sgiliau ymarferol iddynt a allai helpu i achub bywyd.

Mae Achub Bywyd Cymru, sy'n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i wella cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty drwy godi ymwybyddiaeth o CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr.

Mae'r fenter yng Ngheredigion yn adeiladu ar bartneriaeth bresennol rhwng Achub Bywyd Cymru a CBDC, sydd wedi darparu hyfforddiant ar CPR a defnyddio diffibrilwyr i glybiau pêl-droed a sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Darparwyd cyllid drwy Gronfa Chwaraewyr Timau Cenedlaethol CBDC.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol oes a Sgiliau: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid i ddarparu'r hyfforddiant pwysig hwn i bobl ifanc ledled Ceredigion. Gall gwybod sut i roi CPR a defnyddio diffibriliwr wneud gwahaniaeth hollbwysig mewn argyfwng.

“Drwy roi cyfle i ddisgyblion ddatblygu'r sgiliau ymarferol hyn sy'n gallu achub bywydau, rydym yn eu helpu i feithrin hyder, gan gyfrannu at gymunedau mwy diogel a chydnerth.”

Dywedodd Andrew Lindley, Pennaeth Addysg Feddygol Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Gall unrhyw un achub bywyd. Drwy'r bartneriaeth hon, rydym am sicrhau bod gan bobl ifanc ledled Ceredigion y wybodaeth a'r hyder i adnabod ataliad ar y galon a gweithredu cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae ymyrryd yn gynnar yn achub bywydau, ac mae gan bob person ychwanegol sy'n derbyn hyfforddiant y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Mae lansiad y rhaglen yn cyd-fynd â Shoctober, ymgyrch flynyddol Achub Bywyd Cymru i godi ymwybyddiaeth o CPR a'r defnydd o ddiffibrilwyr.

29/10/2026