Dirymu trwydded mangre Rominos yn Aberteifi yn dilyn adolygiad gan sawl asiantaeth
Yn dilyn gwrandawiad ar ddydd Mawrth, 7 Ebrill 2026 i adolygu trwydded, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dirymu trwydded mangre Rominos, Aberteifi.
Gwnaeth Tîm Gorfodaeth Mewnfudo’r Swyddfa Gartref alw am adolygu’r drwydded ar ôl cynnal pedwar ymweliad â’r fangre. Yn ystod yr ymweliadau hyn gwelwyd bod wyth gweithiwr anghyfreithlon yn cael eu cyflogi yn y busnes.
Cefnogwyd yr adolygiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a gynhaliodd archwiliadau diogelwch tân ar y safle. Datgelodd yr arolygiadau hyn fod sawl achos difrifol o dorri rheoliadau diogelwch tân gan beri risg sylweddol i staff, cwsmeriaid a'r cyhoedd. O ganlyniad, dyroddwyd hysbysiadau gwahardd.
Cyflwynodd Heddlu Dyfed-Powys hefyd sylwadau i'r Is-bwyllgor Trwyddedu i gefnogi'r adolygiad, gan dynnu sylw at eu pryderon eu hunain ynglŷn â diogelwch y cyhoedd a chydymffurfiaeth.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu fod dirymu'r Drwydded Mangre yn gam cymesur ac angenrheidiol er mwyn cynnal yr amcanion trwyddedu, yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd ac atal troseddu ac anhrefn. Effaith y dirymu yw y bydd yn rhaid i'r busnes gau am 11pm, yn amodol ar y broses apêl.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion “Rydym yn croesawu penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ddirymu trwydded mangre Rominos yn Aberteifi. Mae hyn yn adlewyrchu difrifoldeb y materion a nodwyd a’r risgiau amlwg a achosir.”
14/04/2026