Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dathliad Wythnos Ffoaduriaid yn dod â chymunedau ynghyd yn Aberystwyth

Bu dathliad Wythnos Ffoaduriaid a gynhaliwyd gan AberAid a Thîm Adleoli Ceredigion yn llwyddiant mawr, gan ddod â thrigolion, gwirfoddolwyr a theuluoedd lleol ynghyd i ddathlu diwylliant, bwyd ac ysbryd cymunedol.

Arddangosfa o ddyfyniadau wedi’u hysgrifennu â llaw gan ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion, yn rhannu negeseuon am groeso, cymorth, diogelwch a chymuned fel rhan o ddathliad Wythnos Ffoaduriaid.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Aberystwyth, lle cafodd gwesteion gyfle i fwynhau bwyd o Syria, Wcráin a Sudan. Roedd y dathliad yn gyfle i bobl o bob rhan o’r gymuned ddod ynghyd, rhannu straeon a dysgu mwy am brofiadau a chyfraniadau ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion.

Paratowyd y bwyd gan bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd rhyfel. I rai, y gobaith yw mai sefyllfa dros dro yw hyn, tra bod eraill wedi ymgartrefu, dod o hyd i waith, ac yn adeiladu bywydau newydd yma. Er hynny, mae’r cysylltiad â’u cartrefi, eu diwylliant a’u ffordd o fyw yn parhau’n bwysig iawn iddynt.

Fel rhan o weithgareddau’r dydd, bu AberAid a’r Tîm Adleoli hefyd yn cynnal stondin yn y farchnad ffermwyr leol ger y Clocdwr, gan godi ymwybyddiaeth a dathlu cryfder, gwydnwch ac amrywiaeth cymunedau yng Ngheredigion.

Roedd ymateb y cyhoedd yn hynod gadarnhaol, gydag ymwelwyr yn dangos cefnogaeth gref i’r digwyddiad ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am groeso, cynhwysiant a pherthyn. Roedd arddangosfa o ddyfyniadau gan ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion hefyd yn dangos effaith y gefnogaeth leol, gyda negeseuon yn cyfeirio at deimlo’n ddiogel, cael croeso gan y gymuned, a gwerthfawrogi’r cymorth sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Roedden ni’n falch iawn o weld cymaint o bobl yn dod ynghyd i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid. Roedd y digwyddiad yn gyfle arbennig i rannu bwyd, diwylliant a sgwrs, ac i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae ffoaduriaid yn ei wneud i’n cymunedau lleol.”

Dywedodd Medi James, AberAid: “Mae’r cymunedau hyn wedi dod â thraddodiadau, sgiliau a safbwyntiau unigryw sydd wedi plethu i mewn i wead cymdeithasol ehangach Cymru, gan barhau i’w gyfoethogi drwy gerddoriaeth, bwyd, y gair llafar ac ysgrifennu. Mae Cymru yn Genedl Noddfa ac mae wedi ymrwymo i helpu mudwyr sy’n byw yng Nghymru i ddod yn rhan o’r gymuned ehangach.”

Adlewyrchodd y dathliad y bartneriaeth barhaus rhwng AberAid a Thîm Adleoli Ceredigion wrth gefnogi pobl sy’n ceisio noddfa a hyrwyddo croeso cynnes a chynhwysol ledled y sir.

Sut gallwch chi helpu:

  • Dewch yn westeiwr: A allech chi gynnig ystafell sbâr neu eiddo i deulu neu unigolyn o Wcráin sydd wedi’u dadleoli?
  • Helpwch i adsefydlu ffoaduriaid: Ydych chi’n berchen ar eiddo rhent preifat?
  • Codwch ymwybyddiaeth: Rhannwch y neges hon ac anogwch eraill i gymryd rhan.

Mae pob cartref a gynigir yn dod â diogelwch, urddas a gobaith i rywun sydd wedi colli eu cartref.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Adleoli drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

15/07/2026