Datgelu Llwybrau Pencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds 2026
Mae British Cycling yn gallu cadarnhau llwybrau’r rasys ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds a gynhelir yng Ngheredigion rhwng 25 a 28 Mehefin 2026.
Bydd 10 crys pencampwr cenedlaethol yn y fantol dros dri diwrnod o rasio gyda'r ras yn erbyn y cloc ddydd Iau 25 Mehefin 2026, y ras gylchdaith ddydd Gwener 26 Mehefin 2026, a ras y ffordd yn glo ar y cyfan ddydd Sul 28 Mehefin 2026.
Roedd Ceredigion yn gartref i Bencampwriaethau llwyddiannus tu hwnt yn 2025 pan gafodd Zoe Backstedt, Ethan Hayter, Callum Thornley, Cameron Mason, Kate Richardson, Matthew Brennan, Mille Couzens a Samuel Watson eu coroni’n bencampwyr cenedlaethol, ac mae digwyddiad 2026 yn argoeli i fod yn un cyffrous arall.
Unwaith eto eleni fe fydd Pencampwriaeth y Ras Gylchdaith a Phencampwriaeth Ras y Ffordd yn cychwyn ac yn gorffen yn Aberystwyth, tra bod Llanbedr Pont Steffan yn ganolfan i Bencampwriaeth y Ras yn Erbyn y Cloc.
Gellir cofrestru ar gyfer y tri digwyddiad erbyn hyn. I gofrestru ar gyfer y ras yn erbyn y cloc ewch i’r dudalen yma, ar gyfer y ras gylchdaith ewch yma, a ras y ffordd yma.
Mae’r cyfleoedd i wirfoddoli ym Mhencampwriaethau Rasio Ffyrdd Cenedlaethol Lloyds wedi agor yn ogystal. Gallwch fynegi eich diddordeb yma.
Ras yn erbyn y Cloc, Pencampwriaethau Cenedlaethol Lloyds, Llanbedr Pont Steffan – Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Ar gyfer cwrs newydd y Ras yn erbyn y Cloc eleni bydd y beicwyr yn anelu am dref farchnad hyfryd Llanbedr Pont Steffan. Bydd yn cychwyn nepell o gampws Prifysgol Cymru yn Llambed, a bydd cwrs newydd y gylchdaith yn ymlwybro heibio i gaeau glas a bryniau prydferth yr ardal.
Bydd ffyrdd bryniog yr ardal yn cyrraedd graddiant o 4.9% ar ei uchaf. Bydd y beicwyr yn bwrw allan o Lambed tuag at bentref Llanfair Clydogau. Ar ôl pasio heibio i neuadd y pentref bydd y beicwyr yn dychwelyd yn ôl i Lambed drwy bentref Cellan a chyrion Cwmann, cyn croesi’r llinell derfyn wrth iddynt groesi Afon Teifi. Prawf rhagorol i’r beicwyr.
Bydd y merched elît, merched dan 23 a’r dynion dan 23 yn cwblhau dwy lap gan roi pellter o 25.6 cilomedr i’r ras, a bydd y dynion elît yn cwblhau tair lap dros gyfanswm o 38.4 cilomedr.
Ras Gylchdaith Pencampwriaethau Cenedlaethol Lloyds, Aberystwyth – Dydd Gwener 26 Mehefin 2026
Ar nos Wener 26 Mehefin tro pencampwriaeth y Ras Gylchdaith fydd hi i ddenu’r sylw a’r torfeydd, a hynny yn Aberystwyth.
Yr un fydd y cwrs â’r hyn a ddilynwyd yn 2025, gan ddechrau ar lan y môr eiconig Aberystwyth cyn ymlwybro ar hyd strydoedd canol y dref ar gyfer cwrs llawn troeon technegol a fydd yn ysgwyd rhythm y beicwyr.
Bydd y ras yn rhedeg yn groes i gyfeiriad y cloc gan basio'r Bandstand ar bob lap. Bydd y beicwyr yn troi i'r chwith i Heol y Wig ac yn teithio ar hyd Stryd Portland, gan fynd i stryd Morfa Mawr cyn ailymuno â Rhodfa Fuddug, lle bydd y rasys yn pasio drwy'r llinell ar bob lap i fonllefau’r dorf.
Bydd 50 munud o rasio dros bum lap o 1.6 cilomedr o hyd ym mhencampwriaethau’r merched elît a’r ras agored. Mae Ras Gylchdaith y Pencampwriaethau Cenedlaethol yn argoeli i fod yn noson wefreiddiol arall o rasio lle bydd cefnogwyr yn cymeradwyo'r beicwyr wrth iddynt wibio heibio ar hyd strydoedd Aberystwyth.
Ras y Ffordd, Pencampwriaethau Cenedlaethol Lloyds, Aberystwyth – Dydd Sul 28 Mehefin 2026
Bydd y beicwyr a gystadlodd yn 2025 yn ôl ar lwybrau cyfarwydd yn ardal Aberystwyth gan fod y llwybr yn debyg i’r un a gafwyd y llynedd. Ar ôl cael eu cyflwyno a dechrau arni ger y prom, bydd ras y ffordd yn bwrw allan o’r dref tua Llanfarian ac mor bell â Thrawsgoed ar lap ddeniadol ond heriol, 23.4 cilomedr o hyd, yn erbyn cyfeiriad y cloc. Byddant yn dychwelyd i Aberystwyth heibio’r Gors. Bydd y peloton yn cwblhau tair lap yn ras y merched, a phum lap yn ras y dynion, cyn i’r ymgiprys symud i’r gylchdaith ar y diwedd.
Bydd y gylchdaith ar y diwedd yn 12.4 cilomedr o hyd – pedair lap i’r merched, a phum lap i’r dynion – gan ddefnyddio’r man cychwyn a gorffen ar lan y môr fel y canolbwynt. Bydd y gylchdaith yn rhedeg ar hyd y promenâd yn ei gyfanrwydd bron â bod, heibio i’r hen goleg a’r castell cyn dod i fan technegol drwy’r hen harbwr ac wrth bont Trefechan.
Bydd y cwrs yn profi’r coesau gan fod rhaid dygymod â graddiant o 8.7% yn Southgate ar bob lap. Bydd y ddisgynfa serth a chul o Moriah yn ôl i briffordd yr A44 yn brawf o allu’r cystadleuwyr i drin y beic cyn iddynt gyrraedd cilomedrau olaf pob pencampwriaeth ac anelu yn ôl am y dref. Byddant yn gorffen ar y prom ar ôl 128 cilomedr o rasio yn achos y merched a 187 cilomedr yn achos y dynion.



28/04/2026