Cynllun Llyfrau Iechyd Mislif Ceredigion ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd tref
Mae Cynllun Urddas Mislif Ceredigion wedi gallu cynnig 'pecynnau llyfrau' cynhwysfawr i bob Ysgol Uwchradd a Gydol Oes a llyfrgelloedd tref yn y Sir, yn dilyn cyllid gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion.
Mae'r detholiad o lyfrau a ddewiswyd yn ofalus, yn anelu at gefnogi pobl ifanc ynghylch iechyd a lles mislif. Ei nod yw hyrwyddo urddas mislif, mewn ffordd sy'n gynhwysol ac yn hygyrch i bobl ifanc ledled Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Drwy lwyddo i dderbyn ychydig o gyllid ychwanegol trwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, mae'r fenter hon yn ein galluogi i ymestyn ymhellach ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i bobl ifanc yng Ngheredigion, trwy gael amrywiaeth o lenyddiaeth addas yn ein hysgolion uwchradd a gydol-oes a llyfrgelloedd tref. Mae darparu adnoddau o ansawdd uchel yn hanfodol i gefnogi iechyd corfforol, datblygiad emosiynol a hyder pobl ifanc yn ystod y glasoed. Drwy gyflwyno’r llyfrau hyn, rydym yn helpu i normaleiddio sgyrsiau a lleihau stigma, yn enwedig i'r rhai a allai ei chael hi'n anodd i ofyn am wybodaeth neu gymorth.”
Dywedodd Chelsea Jones, aelod o Is-Grŵp Urddas Mislif Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Fel person ifanc, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod gan ysgolion a llyfrgelloedd lyfrau am urddas a iechyd mislif. Weithiau mae stigma’n gysylltiedig â phynciau o’r fath, ac efallai y bydd disgyblion yn ei chael hi’n haws darllen amdano yn eu hamser eu hunain. Gobeithio y bydd cael mynediad at ystod o lenyddiaeth ddwyieithog ar iechyd mislif o fudd i bobl ifanc ledled y sir, gan eu helpu i deimlo’n hyderus ac yn wybodus o ran mislif a thyfu i fyny.”
Am ragor o wybodaeth am Urddas Mislif yng Ngheredigion, ewch i: Urddas Mislif yng Ngheredigion
27/01/2026