Cymorth i aelwydydd sy’n wynebu costau olew gwresogi uchel
Mae cymorth ychwanegol ar gael i drigolion sy'n profi argyfwng ariannol annisgwyl a'r caledi ac yn dibynnu ar olew gwresogi, drwy Gronfa Cymorth Ddewisol Llywodraeth Cymru (DAF).
O ganlyniad i ansicrwydd byd-eang, mae prisiau olew wedi bod yn amrywio’n sylweddol, gan beri pryder i aelwydydd sydd yn dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi. Er mwyn helpu’r rhai sy’n wynebu pwysau ariannol difrifol, mae darpariaethau dros dro wedi’u cyflwyno i ehangu’r cymorth sydd ar gael drwy’r gronfa.
O dan y trefniadau newydd, gall aelwydydd cymwys dderbyn:
• Hyd at £750 y tro tuag at gostau olew gwresogi
• Dau grant o fewn cyfnod 12 mis, gyda lleiafswm o dri mis rhwng pob cais
Mae’r cymorth hwn ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n profi caledi ariannol eithafol ac nad oes ganddynt arian wrth gefn na ffynonellau cymorth eraill. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol:
• Bod mewn argyfwng annisgwyl sydd wedi gwneud hi’n amhosibl fforddio hanfodion megis bwyd, nwy, trydan neu olew gwresogi
• Angen cymorth ariannol brys
• Bod dros 16 oed
• Byw yng Nghymru
• Dim cynilion neu adnoddau ariannol eraill ar gael
Rhaid i bob cais gael ei wneud trwy Bartner Cymeradwy.
Partneriaid Cymeradwy yng Ngheredigion
Gall trigolion gysylltu â’r sefydliadau canlynol am gymorth gyda chais:
Cyngor Sir Ceredigion – Cefnogi Rhieni a Theuluoedd
Ffôn: 01545 570881
Cyngor ar Bopeth Ceredigion
Ffôn: 01239 621974 neu 01970 612817
Care Society
Ffôn: 0300 1400025
Cymdeithas Dai Barcud
Ffôn: 0300 1113030
Grŵp Codi (Pobl yn flaenorol)
Ffôn: 01570 421190
Am fanylion llawn a’r wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r rhestr o bartneriaid, ewch i:🔗 Cynnydd mewn Prisiau Olew - Cyngor Sir Ceredigion
25/03/2026