Cymeradwyo cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-2027
Mae cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-2027 wedi'i chymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Llun 02 Mawrth 2026.
Gosodir cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-2027 ar £221.499m. Mae hyn yn arwain at gynnydd o 4.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer Gwasanaethau Cyngor Sir (sy'n cyfateb i gynnydd misol o £7.47 ar gyfer eiddo Band D nodweddiadol). Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 0.10% yn y Dreth Gyngor sy'n ofynnol i ariannu'n llawn yr ardoll Tân o £5.9m a osodwyd gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Wrth osod cyllideb y Cyngor, ac er gwaethaf wynebu pwysau costau ariannol sy’n werth cyfanswm o tua £9.3m (sy'n cyfateb i gyfradd chwyddiant o 4.4%), cytunodd y Cynghorwyr i fuddsoddi mewn sawl maes allweddol. Mae hyn yn cynnwys parhau â Chynllun Cyflogaeth i Raddedigion y Cyngor, £600,000 ychwanegol ar gyfer ysgolion, £1m o arian cyfatebol ar gyfer cynlluniau cyfalaf strategol yn y dyfodol (er enghraifft Prosiect Amddiffyn Arfordir Aberystwyth ac estyniadau / adnewyddu ysgolion cynradd) a buddsoddi yn y pyllau nofio gwirfoddol sy'n cael eu rhedeg gan ymddiriedolaeth yn Aberaeron a Llandysul.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Fel pob Awdurdod Lleol ledled Cymru, mae Ceredigion yn parhau i wynebu pwysau ariannol, lle mae cynnal a chadw gwasanaethau'r Cyngor yn parhau i fod yn heriol. Mae'r sefyllfa wedi cael ei helpu'n sylweddol gan y Cytundeb Cyllideb y cytunwyd arno ym mis Rhagfyr rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a oedd yn golygu bod cyllid craidd y Cyngor ar gyfer 2026-2027 gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu o 2.3% i 4.1%. O ganlyniad, ac am yr ail flwyddyn yn olynol, ni fydd unrhyw doriadau uniongyrchol i wasanaethau a ddarperir yng Ngheredigion.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn ein hymgyrch Ymgysylltu â'r Gyllideb, ac roedd y neges yn glir: nid oedd y mwyafrif o drigolion a ymatebodd eisiau gweld toriadau i wasanaethau rheng flaen hanfodol ac roedd cydnabyddiaeth bod cost i hyn.
Mae ein cyllideb wedi'i rhannu i'r canlynol:
· Bydd 75% o gyllideb y Cyngor (£167 miliwn) yn cael ei wario ar Ysgolion a Dysgu Gydol Oes (30%), Gwasanaethau Gydol Oes a Llesiant, sy'n cynnwys Gofal Cymdeithasol (35%), a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (10%).
· Mae angen 11% arall o gyllideb y Cyngor (£23m) ar gyfer costau sefydlog – Ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Lwfansau Aelodau, Costau Ariannu Cyfalaf a dyfarnu rhyddhad o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
· Mae hyn yn gadael 14% (£31m) i dalu'r gost o redeg holl wasanaethau eraill y Cyngor.
Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drigolion Ceredigion. Rwy'n arbennig o falch ein bod yn buddsoddi mewn cyfleoedd swyddi newydd drwy Gynllun Lleoli Graddedigion Ceredigion, mewn cyfleoedd tai drwy Gynllun Tai Cymunedol Ceredigion ac mewn cyfleoedd galwedigaethol mewn amaethyddiaeth drwy Fferm Llettytwppa yn Llanbedr Pont Steffan. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gynllunio ar gyfer y dyfodol i helpu i alluogi mwy o ddyheadau i ddwyn ffrwyth. Mae cyfleoedd cyffrous o'n blaenau".
Mae cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026-2027 hefyd yn cynnwys £8.1m ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae hwn yn gynllun prawf modd a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Budd-dal Tai a Threth y Cyngor - Cyngor Sir Ceredigion a gellir dod o hyd i Gyfrifiannell Hawliau yma: Budd-daliadau - Cyngor Sir Ceredigion.
02/03/2026