Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyfle i bobl ifanc ymgeisio am fwrsari o £1,500

Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages er mwyn cefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.

Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed dderbyn £1,500 i helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy'n banel o bobl ifanc o Geredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cefnogi Cyfranogiad:  “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i West Wales Holiday Cottages am roi'r cyfle hwn i ni am y nawfed flwyddyn yn olynol ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i'w helpu gyda'u busnes newydd harddwch symudol. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i bobl ifanc yng Ngheredigion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Hoffwn annog unrhyw un sydd rhwng 11 a 25 oed, ac sydd angen cymorth ariannol i gyrraedd eu nodau, i ystyried y cyfle gwych hwn. Fel yn flaenorol, gobeithiaf y bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant unwaith eto eleni, ac y bydd o fudd i bobl ifanc yng Ngheredigion.”

Dywedodd Lisa Stopher, Cyfarwyddwr West Wales Holiday Cottages: “Mae West Wales Holiday Cottages yn falch iawn o gefnogi’r bwrsariaeth unwaith eto mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Rydym yn cydnabod y gall llawer o bobl ifanc wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at gyfleoedd, hyfforddiant ac adnoddau, ac rydym yn gobeithio y bydd y fwrsariaeth hon yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i ddilyn eu nodau a’u dyheadau.”

Oes angen cymorth ariannol arnoch chi i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos 19 Gorffennaf 2026. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch ieuenctid@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.

19/05/2026