Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cronfa Trefi Taclus Ceredigion wedi helpu Llambed i ddisgleirio

Mae gwelliannau amgylcheddol ledled Llanbedr Pont Steffan wedi helpu i greu tref lanach, wyrddach a mwy croesawgar, diolch i gyllid drwy Gynllun Trefi Taclus Ceredigion.

Mae’r cynllun, a gyflwynir gan dîm Cynnal y Cardi, Cyngor Sir Ceredigion ac a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) yn cefnogi trefi ledled Ceredigion i wella mannau cyhoeddus, cryfhau balchder cymunedol a chreu cyrchfannau deniadol i drigolion ac ymwelwyr.

Gyda chefnogaeth y gronfa, cyflwynodd Cyngor Tref Llambed ystod o welliannau, gan gynnwys adnewyddu dau gyfleuster toiledau cyhoeddus, plannu planhigion newydd a gwella mannau cyhoeddus. Gwnaed gwelliannau hefyd i ail gyfleuster toiledau cyhoeddus y dref, gan wella’r ddarpariaeth i drigolion ac ymwelwyr.

Mae plannu coed a llwyni newydd wedi gwella lleoliadau allweddol ledled Llambed, gan gryfhau au hunaniaeth y dref a chreu argraff gyntaf gadarnhaol ar y rhai sy’n cyrraedd.

Mae cyfranogiad y gymuned hefyd wedi bod yn ganolog i’r prosiect. Cynhaliwyd sesiynau chwynnu a gwella’r amgylchedd gan wirfoddolwyr drwy gydol yr haf, gan gynnwys paratoadau ar gyfer treialon amser Pencampwriaethau Beicio Prydain a Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan. Cymerodd cyfanswm o 18 o wirfoddolwyr unigol ran gan helpu i gynnal a gwella golwg y dref.

Bydd offer a brynwyd drwy’r gronfa, gan gynnwys offer casglu sbwriel a chynnal a chadw, yn cefnogi ymdrechion parhaus y gymuned i gadw Llambed ar ei gorau.

Dywedodd Meryl Thomas, Clerc Cyngor Tref Llambed: “Mae’r cyllid hwn wedi ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a gweladwy i Lanbedr Pont Steffan, gan wella cyfleusterau cyhoeddus a chreu mannau glanach, gwyrddach a mwy croesawgar i bawb eu mwynhau. Yr un mor bwysig, mae wedi dod â phobl ynghyd, gyda gwirfoddolwyr lleol yn rhoi o’u hamser a’u hegni i helpu i ofalu am ein tref. Rydym yn falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ac o’r ysbryd cymunedol sydd wrth wraidd y gwaith. Mae’r gwelliannau hyn yn ymwneud â mwy na golwg Llanbedr Pont Steffan yn unig; maent yn ymwneud â chreu tref y gall trigolion ymfalchïo ynddi, lle gall busnesau ffynnu ac y bydd ymwelwyr am ddychwelyd iddi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae’n wych gweld y gwahaniaeth y mae’r gwelliannau hyn wedi’i wneud ar draws Llambed. Mae bwysig i gynnal a chadw ein mannau cyhoeddus i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma, yn ogystal â’r rhai sy’n ymweld â’r dref. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud Llambed yn lle hyd yn oed yn fwy croesawgar.”

Nod Cynllun Trefi Taclus Ceredigion oedd meithrin balchder lleol, cefnogi busnesau, gwella profiad ymwelwyr ac annog cymunedau i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o wella eu hamgylchedd lleol.

Mae prosiect Llambed yn dangos sut y gall buddsoddiad wedi’i dargedu a gweithredu cymunedol wneud gwahaniaeth parhaol, gan helpu i greu tref fwy deniadol, bywiog a chroesawgar i bawb.

09/11/2026