Cofrestrwch i bleidleisio ar gyfer yr Etholiad i Senedd Cymru
Bydd Etholiad i Senedd Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 07 Mai 2026, lle gall pleidleiswyr ledled Cymru ddewis 96 o Aelodau a fydd yn eu cynrychioli yn Senedd Cymru.
Gall unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn, ac sy’n byw yng Nghymru, gofrestru i bleidleisio.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru i bleidleisio yma: Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK
Trefniadau newydd:
Bydd rhai trefniadau newydd i’r Etholiad i Senedd Cymru y tro hwn:
- Bydd 96 o Aelodau yn cael eu hethol ledled Cymru, yn hytrach na’r 60 blaenorol.
- Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 blaenorol.
- Ceredigion Penfro yw enw’r etholaeth a fydd yn cwmpasu siroedd Ceredigion a Sir Benfro.
- Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod drwy ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’ (closed proportional list). Byddwch yn dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol o’r papur pleidleisio.
- Bydd etholiadau i Senedd Cymru yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na phob pum mlynedd fel o’r blaen.
Dyddiadau pwysig eraill:
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
- Os ydych wedi symud cartref yn ddiweddar ac nid ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.
- Os ydych eisiau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026.
- Os ydych eisiau pleidleisio drwy ddirprwy (nid drwy ddirprwy mewn argyfwng), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026.
- Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026 tan 5.00pm ar 07 Mai 2026 ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol yn unig. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 572032.
- Cynhelir yr Etholiad ar 07 Mai 2026, gyda’r gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07:00 a 22:00.
- Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod y dydd ar 08 Mai 2026.
Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Canlyniadau Etholaeth Ceredigion Penfro: “Cofrestru i bleidleisio yw un o’r ffyrdd symlaf ond mwyaf pwerus o sicrhau y bydd eich llais yn cael ei glywed. Mae’r penderfyniadau a wneir yn Senedd Cymru yn llywio’r gwasanaethau a’r cymorth y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt bob dydd — o iechyd i addysg i drafnidiaeth a’r amgylchedd. Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i dreulio ychydig funudau yn cofrestru i bleidleisio cyn 20 Ebrill 2026, a hynny erbyn Etholiad Senedd Cymru a gynhelir ar 07 Mai 2026.”
Am wybodaeth bellach ac i weld cyfres o gwestiynau cyffredin, ewch i’n gwefan: Etholiad Senedd Cymru
27/01/2026