Ceredigion yn paratoi i groesawu Rali Ceredigion
Mae'r cyfrif i lawr ar y gweill ar gyfer JDS Machinery Rali Ceredigion, a fydd yn dod ag ymwelwyr i Geredigion rhwng 4 a 6 Medi ar gyfer un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr blynyddol y sir.
Wrth i'r cyffro gynyddu cyn y digwyddiad, mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion ac ymwelwyr i wneud y gorau o'r achlysur drwy gefnogi siopau, caffis, bwytai a busnesau lleol ledled y sir.
Er bydd rhai ffyrdd yn cael eu cau dros dro er mwyn caniatáu i'r rali gael ei chynnal, bydd canol trefi ledled Ceredigion yn parhau ar agor ar gyfer busnes. Gallwch hyd yn oed ymweld â Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar 05 Medi, a fydd yn mynd rhagddi fel arfer.
Bydd y digwyddiad sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol unwaith eto yn rhoi Ceredigion dan y chwyddwydr, gan ddenu cystadleuwyr, timau cefnogi, gwirfoddolwyr a gwylwyr o bob rhan o'r DU ac Ewrop. Eleni, mae 149 wedi cofrestru i gystadlu, sef y nifer uchaf hyd yn hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae Rali Ceredigion wedi dod yn un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yng nghalendr ein sir ac rydym yn falch iawn o groesawu cystadleuwyr, timau a gwylwyr yn ôl i Geredigion. Mae digwyddiadau fel hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i arddangos popeth sydd gan ein sir i'w gynnig, gan gefnogi busnesau lleol, lletygarwch ac atyniadau ar yr un pryd.”
Anogir ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw drwy wirio gwybodaeth am gau ffyrdd a diweddariadau'r digwyddiad ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: JDS Machinery Rali Ceredigion 2026
Gellir hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y digwyddiad ar wefan swyddogol Rali Ceredigion: JDS Machinery Rali Ceredigion
28/08/2026