Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ceredigion yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Gŵyl Ffrinj ar draws y sir

Dathlodd Cyngor Sir Ceredigion Dydd Gŵyl Dewi 2026 gyda rhaglen fywiog o weithgareddau a gynhaliwyd drwy gymorth cyllid Llywodraeth Cymru.

Eleni, dyrannodd y Llywodraeth £1 miliwn i gefnogi digwyddiadau ar draws Cymru, ac yn dilyn cais llwyddiannus, llwyddodd Tîm Diwylliant Ceredigion i sicrhau cyllid. Gyda’r cymorth a dderbyniwyd, roedd y gwasanaeth wedi medru sefydlu rhaglen newydd sydd yn arloesol, yn wreiddiol ac yn dathlu diwylliant Cymreig mewn modd draddodiadol a chyfoes.

Daeth y dathliadau ynghyd mewn arddull Gŵyl Ffrinj o dan y teitl “Byddwch Lawen”, gan greu themâu o obaith, cymuned a llawenydd. Crëwyd hunaniaeth weledol y rhaglen gan Rhiannon Roberts, artist lleol o Giliau Aeron, a bu ei gwaith yn symbol cyfarwydd ar hyd y dathliadau.

Gwledd Gwerin y Gwyliau
Fe ddaeth Cered, Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, ac ysgolion lleol ynghyd ar gyfer diwrnod llawn o gerddoriaeth werin yn Aberteifi. Mwynhaodd disgyblion weithdy ymarferol yng Nghastell Aberteifi yn ystod y dydd, cyn y gig yn Y Seler gyda’r nos. Cafwyd perfformiadau rhagorol gan Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas ynghyd â cherddorion dawnus o Ysgol Uwchradd Aberteifi, gan greu noson fywiog o alawon gwerin traddodiadol a chyfoes.

Y Ddraig Goch
Drwy gydol mis Chwefror, bu Theatr Byd Bach yn gweithio gyda pobl ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion i greu pypedau trawiadol, a ddaeth yn ganolbwynt i orymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi eleni. Ar yr un pryd, bu grwpiau maethu lleol yn cydweithio ag artistiaid i greu baneri lliwgar. Datblygwyd yr eitemau hyn mewn gweithdai creadigol gan ychwanegu lliw ac egni at ddigwyddiadau’r ŵyl a gorymdeithiau’r sir.

Cynhaliwyd gorymdeithiau fel a ganlyn:
•    Aberteifi: 27 Chwefror
•    Tregaron: 27 Chwefror
•    Aberystwyth: 28 Chwefror
•    Llanbedr Pont Steffan: 28 Chwefror
•    Aberaeron: 2 Mawrth

Tê Cymreig
Arweiniodd Porth Gofal brosiect mewn cartrefi gofal ledled Ceredigion, gan wahodd preswylwyr i rannu eu hatgofion o Ddydd Gŵyl Dewi dros baned o de. Creuwyd awyrgylch hamddenol ar gyfer sgwrsio, myfyrio ac adrodd straeon. Yn ogystal, cafodd pob cartref weithgaredd diwylliannol gwahanol—megis barddoniaeth, cerddoriaeth neu arddangosfeydd creadigol—gan helpu preswylwyr i ddathlu traddodiadau Cymreig mewn ffordd bersonol a chyfforddus.

Cynhaliwyd gweithdai yn Hafan y Waun, Bryntirion, Min y Môr, Hafan Deg ac yn Yr Hafod, gan gynnwys:
•    Gweithdy barddoniaeth dan arweiniad Y Prif Fardd Ceri Wyn
•    Elfennau cerddorol mewn rhai cartrefi, gan gynnwys perfformiadau gan ddisgyblion
•    Arddangosfa gan Halibalŵn

Ladis ar y Lôn gan Theatr Felinfach
Ychwanegodd Ladis ar y Lôn elfen o syndod i’r dathliadau wrth iddynt ymddangos ar hyd y sir, gan ddod â lliw, symudiad a llawenydd i’r strydoedd. Cafodd y Ladis eu hysbrydoli gan waith Ruth Jên — yn enwedig delwedd Mis Mawrth 2026 “Jawl! S’dim hawl rhoi bobol yn y cawl!”. Denodd eu perfformiadau byrfyfyr ac egniol sylw’r dorf, gan ddathlu cyfoeth treftadaeth a gwisg draddodiadol Cymru mewn ffordd chwareus a chrëadigol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant: “Roedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni yn dangos pa mor greadigol a balch yw pobol Ceredigion a pha mor barod i ddod at ein gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant. Roedd yn hyfryd gweld pobl o bob oed yn dod ynghyd i ddathlu ac wrth brofi hynny y mae’n ennyn gobaith a hyder wrth edrych at ddyfodol Cymru.”

13/03/2026