Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Categori Caru’ch Cymuned NAWR AR AGOR, rhan o Wobrau Caru Ceredigion 2026

Yn dilyn llwyddiant ymgyrch Caru’ch Cymuned yn 2025, bydd gan gymunedau ledled Ceredigion gyfle i ymgeisio am wobr efydd yng Ngwobrau Caru Ceredigion 2026. I’r cymunedau hynny a lwyddodd i ennill gwobr efydd yn 2025, mae cyfle’n awr iddynt ennill gwobr arian yn 2026.

Bydd y wobr Caru’ch Cymuned yn cydnabod ac yn dathlu ymdrechion a champau eithriadol cymunedau yn y sir.

Nod Caru’ch Cymuned yw meithrin ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ar draws y sir ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau sy’n gwella’r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau cydlyniant a gwydnwch cymunedol. Caiff Gwobrau Caru Ceredigion eu gweinyddu gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle i gymunedau yng Ngheredigion, waeth pa mor fach ydynt, gael eu cydnabod a’u clodfori am eu hysbryd cymunedol, sy’n cynnwys balchder bro, ymrwymiad i fod yn gymdogol, a gweithgareddau a mentrau a gaiff eu hysgogi gan y gymuned.

Mae cymunedau bach a mawr yn cael eu hannog i ymgeisio.

Ceir tri is-gategori yn y gystadleuaeth Caru’ch Cymuned. 

  1. Pentref bach (Pentrefi sydd â llai na 5 o gyfleusterau)
  2. Pentref (Pentrefi unigol neu ardal benodol o fewn ardal cyngor cymuned neu gyngor tref, sydd â 5 neu fwy o gyfleusterau)
  3. Tref (Trefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Ceinewydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron. h.y. trefi sydd â Chynlluniau Cynefin)

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan gorff cydnabyddedig sy’n cynrychioli’r gymuned, megis cyngor tref, cyngor cymuned, clwb neu fudiad gwirfoddol yn y gymuned. Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno ar gyfer pob cymuned unigol. Croesewir ceisiadau ar y cyd gan glybiau neu fudiadau gwirfoddol ar ran y gymuned. Rhaid bod gan y sefydliad sy’n ymgeisio ar ran y gymuned gyfansoddiad ffurfiol.

Bydd y panel o feirniaid allanol yn asesu tystiolaeth a gyflwynir i ddangos gweithgareddau, digwyddiadau a mentrau a arweinir gan y gymuned, cyfathrebu effeithiol, a’r gofal am ardaloedd cyhoeddus a’u cyflwr yn y gymuned, sy’n adlewyrchu’r ymdrech i greu cymunedau bywiog a gofalgar.

Y cam cyntaf yw cofrestru diddordeb mewn cystadlu a chyflwyno ffurflen Datgan Diddordeb, sydd ar gael YMA cyn dydd Llun 8 Mehefin 2026.

Mae’r ffurflen gais lawn a’r nodiadau cyfarwyddyd i’w gweld YMA neu wrth fynd i’r dudalen gwe: Caru'ch Cymuned 2026 - Cyngor Sir Ceredigion

Bydd angen llenwi a chyflwyno’r ffurflen gais lawn erbyn dydd Llun 7 Medi 2026 ynghyd â’r holl dystiolaeth i gefnogi’r cais, megis lluniau, dolenni cyswllt â gwefannau, platfformau ar gyfryngau cymdeithasol, posteri a deunyddiau cyfathrebu eraill. 

Bydd angen map sy’n amlinellu’r ardal gymunedol dan sylw, a bydd angen nodi ar y map a/neu restru’n glir leoliadau’r amwynderau a’r nodweddion sydd i’w hasesu, ar gyfer y beirniaid a fydd yn ymweld ddechrau mis Medi 2026.

Gellir lawrlwytho mapiau o Google Maps, eu creu â llaw neu’u lawrlwytho YMA.

Dywedodd Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: ‘Nod y wobr Caru’ch Cymuned yw cydnabod y balchder, y gofal a’r ymrwymiad sy’n bodoli mewn cymunedau ledled Ceredigion. Rydym yn gwybod bod cymunedau cryf yn cael eu creu gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddynt ac mae’r wobr hon yn dathlu’r gweithredu lleol, y partneriaethau, ac ysbryd y gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol. Hoffwn annog cymunedau o bob maint i ystyried cyflwyno cais ac arddangos y gwaith ardderchog y maent yn ei wneud i gefnogi ei gilydd, gwella eu hamgylchedd lleol a chryfhau bywyd cymunedol.’

Bydd yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pob is-gategori yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ar nos Iau, 10fed o Ragfyr, 2026.

12/05/2026