Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cardi Cranks yn noddi dysgwyr Mecaneg Lefel 1 TSC+

Rydym yn dymuno estyn ein diolch diffuant i ‘Cardi Cranks’ am eu nawdd caredig i ddysgwyr Mecaneg Lefel 1 TSC+.

Diolch i gefnogaeth Cardi Cranks, mae dysgwyr wedi cael adnoddau megis hwdis, trowsus, esgidiau diogelwch, ac amrywiaeth o offer a chyfarpar hanfodol, gan eu galluogi i ymgymryd ag elfennau ymarferol eu cwrs yn hyderus. Bydd y cyfraniad hwn yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i hyfforddiant dyddiol dysgwyr a'u profiad dysgu cyffredinol. 

Dywedodd Karen Bulman, rheolwr tîm Dysgu a Sgiliau Galwedigaethol: “Mae partneriaethau â sefydliadau lleol fel Cardi Cranks yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau dysgu galwedigaethol a datblygu sgiliau. Mae eu hymrwymiad yn dangos buddsoddiad gwirioneddol mewn pobl ifanc a'r gweithlu yn y dyfodol, gan helpu dysgwyr i feithrin hyder, cymhwysedd ymarferol, a dyhead. Rydym yn hynod ddiolchgar i Cardi Cranks am eu cefnogaeth barhaus ac am gydnabod pwysigrwydd meithrin talent newydd o fewn y gymuned leol.” 

Mae natur ymarferol rhaglen Mecaneg Lefel 1 yn hanfodol wrth baratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth o fewn y sectorau moduro. Mae cael mynediad at ddillad amddiffynnol o ansawdd uchel ac offer perthnasol i'r diwydiant nid yn unig yn cefnogi gofynion iechyd a diogelwch ond hefyd yn helpu dysgwyr i deimlo'n hyderus, yn broffesiynol, ac yn barod ar gyfer gwaith.

Dywedodd John Lewis (Cadeirydd Cardi Cranks): “Mae Cardi Cranks yn falch o noddi dysgwyr mecaneg HCT a darparu cefnogaeth barhaus yn y dyfodol. Fel sefydliad rydym yn awyddus ac yn falch o fod yn buddsoddi yn nyfodol y dysgwyr hyn a'r diwydiant cerbydau modur”.

Meddai’r Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae cefnogaeth Cardi Cranks yn rhoi hwb gwerthfawr i’n dysgwyr ifanc wrth iddynt ddechrau ar eu taith hyfforddiant galwedigaethol. Mae sicrhau bod ganddynt y dillad, yr offer a’r adnoddau cywir yn helpu i gael gwared ar rwystrau ac yn eu galluogi i ganolbwyntio’n llawn ar ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad hwn, sy’n dangos ymrwymiad cryf i gefnogi talent leol ac i fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau.”

02/02/2026