Cais newydd am drwydded safle wedi’i wrthod ar gyfer busnes cludfwyd yn Aberteifi
Ar 12 Mehefin, cafodd cais newydd am drwydded safle, gan berthynas agos i'r deiliad cyfredol, ar gyfer busnes cludfwyd Rominos yn Aberteifi ei wrthod gan banel trwyddedu.
Yn flaenorol, yn dilyn adolygiad ffurfiol ym mis Ebrill 2026, dirymwyd y trwydded safle ar gyfer Rominos Aberteifi gan Awdurdod Trwyddedu Cyngor Sir Ceredigion.
Gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw oherwydd pryderon difrifol mewn perthynas ag atal troseddu ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd. Roedd y drwydded wedi caniatáu i’r busnes weithredu ar ôl 11pm.
Cynhaliwyd yr adolygiad yn dilyn gweithgarwch gorfodi ar y cyd, gan gynnwys sawl ymweliad gan Gorfodaeth Mewnfudo (Immigration Enforcement) ac asiantaethau partner. Ar bedwar achlysur ar wahân, nodwyd bod unigolion yn gweithio’n anghyfreithlon yn y safle. Yn ogystal, nodwyd pryderon sylweddol ynghylch diogelwch tân yn ystod arolygiadau, sydd bellach wedi’u cywiro.
Mae deiliad presennol y drwydded wedi arfer ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i’r Llys Ynadon. Mae’r apêl yn parhau.
Yn dilyn penderfyniad yr adolygiad, cyflwynwyd cais newydd am drwydded safle ar gyfer yr un lleoliad gan berthynas agos i ddeiliad cyfredol y drwydded. Ystyriwyd y cais ar 12 Mehefin a derbyniodd wrthwynebiadau gan Heddlu Dyfed-Powys a thîm Gorfododaeth Mewnfudo Swyddfa Gartref Cymru a Gorllewin Lloegr, eto ar sail atal troseddu ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd.
Cododd yr awdurdodau cyfrifol nifer o bryderon, gan gynnwys:
- Prin oedd y dystiolaeth i ddangos bod methiannau blaenorol wedi’u datrys;
- Nid oedd mesurau cadarn wedi’u cyflwyno i atal achosion pellach o weithio’n anghyfreithlon; a
- Roedd diffyg hyder y byddai’r amcanion trwyddedu’n cael eu hyrwyddo yn y dyfodol.
Yn dilyn y gwrandawiad, gwrthododd yr Is-bwyllgor Trwyddedu, a oedd yn cynnwys tri Chynghorydd Sir, y cais, gan ddod i’r casgliad nad oedd yr ymgeisydd wedi dangos y byddai’r safle’n gweithredu yn unol ag amcanion trwyddedu.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Amddiffyn y Cyhoedd: “Diogelu’r cyhoedd a chynnal yr amcanion trwyddedu yw ein prif flaenoriaeth. Lle mae tystiolaeth glir o dorri’r gyfraith yn ddifrifol ac yn barhaus, gan gynnwys gweithio’n anghyfreithlon, ni fyddwn yn oedi i gymryd camau gorfodi cadarn. Mae’r achos hwn yn amlygu pwysigrwydd bod deiliaid trwyddedau yn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu’n weithredol ac yn gweithredu o fewn y gyfraith. Rhaid i geisiadau ddangos yn glir sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli, ac os na ellir gwneud hyn, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu’r gymuned.”
19/06/2026