Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella llesiant lleol

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn gofyn am farn trigolion i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cymunedau lleol.

Bydd y canlyniadau sy'n cael eu casglu yn helpu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n effeithio ar lesiant unigolion a chymunedau o fewn y tair sir.

Bydd yr ymatebion i'r arolwg llesiant rhanbarthol yn cael eu dadansoddi a byddan nhw'n cyfrannu at Gyd-Gynllun Llesiant Ceredigion/Sir Gâr 2028-2033. Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro hefyd yn cyhoeddi ei gynllun lleol.

Bydd y cynllun llesiant drafft yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein siroedd.

Er mwyn helpu i lunio dyfodol llesiant, cwblhewch yr arolwg ar-lein erbyn 8 Awst 2026. 

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: "Mae lleisiau a phrofiad byw ein trigolion yn allweddol wrth nodi'r hyn y mae llesiant yn ei olygu a sut y gallwn ymdrechu i wella ar gyfer ein cenedlaethau i ddod. Hoffwn annog ein trigolion, grwpiau a chymunedau lleol i gwblhau'r arolwg neu ymuno â ni mewn digwyddiadau yn y dyfodol."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Mae gweithio gyda’n gilydd ar draws ein tair sir yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni feithrin darlun cliriach, ar y cyd, o’r hyn sy’n bwysig i’n cymunedau. Mae pob ymateb yn ein helpu i ddeall yn well yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a’r cyfleoedd y gallwn eu datblygu i gefnogi llesiant, nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn annog pawb yn gryf i gymryd ychydig funudau i rannu eu barn a helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant. Mae paratoi Asesiad Llesiant Lleol yn gyfrifoldeb statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Sut i rannu eich barn

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor: Asesiad o Lesiant Lleol

12/06/2026