Bwrw golwg yn ôl ar gyflawniadau 2024-2025
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol. Mae’r adroddiad diweddaraf, sy’n adolygu blwyddyn 2024-2025, bellach ar gael i'w ddarllen ar wefan y Cyngor.
Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn perfformio, ei gynnydd o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant Corfforaethol a'r heriau y mae'n eu hwynebu o ran darparu gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
Yn ystod 2024-2025, rydym wedi bwrw ymlaen â chyflawni ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol ac mae cynnydd da wedi'i wneud. Er enghraifft, agorwyd Ysgol newydd Dyffryn Aeron yn swyddogol ym mis Mawrth 2025 gan ddarparu cyfleusterau dysgu modern o'r radd flaenaf i ddisgyblion.
Agorwyd Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa hefyd gyda’r nod o alluogi unigolion i fyw'n annibynnol gartref am gyfnod hirach, a chadarnhaodd llywodraethau Cymru a'r DU ryddhau'r ail gyfran o gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £11.8m i ddatgloi potensial yr economi leol.
Dangoswyd diwylliant cyfoethog ac ysbryd cymunedol Ceredigion hefyd, wrth i’r sir fod yn Sir Nawdd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024, a chyhoeddwyd ein Strategaeth Gymraeg newydd a fydd yn cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn helpu'r iaith i ffynnu ar draws y Sir.
Adolygwyd cynnydd y Cyngor yn annibynnol yn ei Asesiad Perfformiad Panel cyntaf ym mis Hydref 2024. Daeth yr asesiad i'r casgliad bod Ceredigion yn gyngor a gaiff ei redeg yn dda, er gwaethaf y galw mawr sydd ar y gwasanaeth a’r pwysau ariannol sylweddol iawn y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Mae canlyniadau diweddaraf y Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol, a gynhyrchir gan gwmni Data Cymru ac sy’n cynnwys 34 o fesurau perfformiad allweddol, yn dangos bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i berfformio ymhlith y Cynghorau gorau yn genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae'r flwyddyn a fu wedi bod yn un hynod brysur i'r Cyngor ac rwy'n falch iawn o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar brosiectau allweddol i gefnogi ein cymunedau lleol, busnesau a rhanddeiliaid eraill. Mae Adroddiad Hunanasesu eleni yn amlinellu’r cyflawniadau hyn ac mae’n arwydd clir o waith caled yr aelodau etholedig, staff y cyngor ac ystod o bartneriaid ein bod wedi gallu cyflawni cymaint”.
I ddarllen Adroddiad Hunanasesu 2024-2025 Cyngor Sir Ceredigion, ewch i'n gwefan: Adroddiad Hunanasesu
Mae cyflwyno Adroddiad Hunanasesu yn ofyniad statudol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
07/01/2026