Buddsoddiad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i adeilad hanesyddol Gwesty’r Cambrian yn Aberystwyth
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a weithredir drwy Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, er mwyn hybu camau i adfywio trefi allweddol ledled y canolbarth.

Mae Aberystwyth yn un o chwe thref â blaenoriaeth yng Ngheredigion sy’n elwa o’r rhaglen, ochr yn ochr ag Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron. Caiff y fenter ei gweinyddu gan Dîm Cynnal y Cardi yng Nghyngor Sir Ceredigion, ac mae’n canolbwyntio ar adfywio canol trefi drwy waith buddsoddi cyfalaf a dargedir.
Un prosiect allweddol sydd wedi’i gefnogi drwy Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yw prosiect adfywio adeilad hanesyddol Gwesty’r Cambrian yn Aberystwyth.
Mae Gwesty’r Cambrian mewn lleoliad amlwg ar y gornel rhwng Ffordd Alexandra a Stryd yr Undod. Mae’n union gyferbyn â gorsaf reilffordd Aberystwyth, ac mae’n dirnod adnabyddus i breswylwyr ac i ymwelwyr sy’n cyrraedd canol y dref.
Gwesty coets fawr oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac mae’n dyddio yn ôl i gyfnod cyn 1867. Câi ei alw’n flaenorol yn Commercial Inn a Commercial Vaults. Er nad yw’r adeilad wedi’i restru yn statudol, mae’n rhan o Ardal Gadwraeth Tref Aberystwyth a chaiff ei gydnabod oherwydd ei bwys pensaernïol a diwylliannol lleol.
Mae nodweddion neilltuol yr adeilad yn cynnwys y ffasâd ffrâm bren, y manylion addurnol sydd ar y to, y ffenestri codi a’r ffenestri casment traddodiadol, a nodweddion mewnol sydd wedi goroesi o’r gorffennol, megis gwaith coed a nenfydau â chilfwâu.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r gwesty wedi mynd yn llai hyfyw oherwydd disgwyliadau ymwelwyr sydd wedi newid, ac oherwydd ystafelloedd ymolchi a gâi eu rhannu, a chystadleuaeth gan westai modern sy’n fwy o faint. O ganlyniad, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r lloriau uchaf a pharhaodd y busnes i weithredu ar y llawr gwaelod yn unig fel bar a bwyty.
Yn awr, bydd y prosiect sydd wedi cael cymorth gan Trawsnewid Trefi yn adfer y lloriau uchaf gwag hyn ac yn eu troi’n unedau llety hunangynhwysol o safon. Bydd hynny’n helpu i fynd i’r afael â galw lleol am lety ymwelwyr yn Aberystwyth ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r adeilad hefyd.
Bydd y gwaith adnewyddu’n cael ei gyflawni mewn modd sensitif, gan sicrhau bod cymeriad hanesyddol yr adeilad yn cael ei warchod a’i wella. Bydd y gwaith yn cynnwys atgyweirio nodweddion gwreiddiol yn ofalus yn ogystal â gwneud gwaith uwchraddio modern, nad yw’n tynnu sylw, er mwyn gwneud yr adeilad yn fwy cyffyrddus ac effeithlon.
Bydd y prif welliannau’n cynnwys:
- Inswleiddio’r waliau allanol a’r ardaloedd yn y to er mwyn gwella perfformiad thermol
- Uwchraddio’r ffenestri codi presennol gan ddefnyddio system selio nad yw’n tynnu sylw, er mwyn gwarchod golwg yr adeilad a lleihau’r gwres a gollir ohono
- Gosod paneli solar ffotofoltäig ar y to er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy
- Darparu cyfleusterau diogel i storio beiciau, yn unol â Chanllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru
Bydd y mesurau hyn yn gwneud llawer i wella effeithlonrwydd yr adeilad o ran ynni, lleihau costau rhedeg, a hybu amcanion cynaliadwyedd ehangach
Bydd y prosiect yn esgor ar fanteision hirdymor nid yn unig i’r adeilad ei hun ond hefyd i ganol y dref yn ehangach. Bydd adfer Gwesty’r Cambrian yn gwella golwg Ffordd Alexandra, yn atgyfnerthu cymeriad y fynedfa allweddol hon i Aberystwyth, ac yn cyd-fynd â buddsoddiad diweddar arall mewn gwaith adfywio yn yr ardal gyfagos.
Pan fydd y cynllun wedi’i gwblhau, bydd yn sicrhau bod rhan wag o adeilad hanesyddol, nad yw’n cael ei defnyddio’n ddigonol, yn cael ei defnyddio unwaith eto, a fydd yn cefnogi’r economi leol o ran ymwelwyr ac yn cyfrannu i gyflenwad y dref o ran tai a llety.
Mae Paul Davies, uwch-dechnegydd pensaernïol yn DB3 Architecture, ynghyd â’r perchennog Jayne Fisher yn pwysleisio fel a ganlyn: “Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y cymorth a gynigiwyd drwy’r Rhaglen Trawsnewid Trefi. Drwy gymorth gan y cynllun, roedd yn bosibl cyflawni’r gwaith i safon uchel gan ddefnyddio crefftwyr lleol a ddefnyddiodd eu sgiliau i gyflawni ystod o waith atgyweirio’n sensitif, sy’n rhywbeth yr oedd yr adeilad yn ei haeddu."
Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad ehangach drwy’r Rhaglen Trawsnewid Trefi i greu canol trefi bywiog, cynaliadwy a gwydn ar draws y canolbarth.
Dywedodd Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: "Mae Buddsoddi drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau canol ein trefi, ac mae adfywio Gwesty'r Cambrian yn enghraifft wych o sut y gall y cyllid hwn ddod ag adeiladau hanesyddol yn ôl i ddefnydd ystyrlon. Bydd y prosiect hwn yn diogelu tirnod allweddol, yn darparu llety o ansawdd uchel, ac yn cefnogi'r economi ymwelwyr leol. Byddwn yn annog busnesau eraill a pherchnogion eiddo i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael drwy'r rhaglen."
Am ragor o wybodaeth am Raglen Grant Trawsnewid Trefi, cysylltwch â transforming.towns.placemaking@ceredigion.gov.uk.
26/05/2026