Buddsoddiad digidol yn helpu Coetir Cymunedol Longwood i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach
Mae Coetir Cymunedol Longwood, ger Llanbedr Pont Steffan, wedi gwella ei bresenoldeb digidol a’i allu i gysylltu ag ymwelwyr a gwirfoddolwyr diolch i gyllid a ddarparwyd drwy Gyngor Sir Ceredigion.
Derbyniodd y prosiect gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF), a ddarparwyd yn lleol drwy Gronfa Datblygu a Chefnogi Cymunedol Cynnal y Cardi y Cyngor.
Mae’r cyllid wedi galluogi Coetir Cymunedol Longwood, sy’n cael ei gydnabod fel y coetir cymunedol mwyaf yng Nghymru, i ddatblygu gwefan newydd, hwylus i’w defnyddio, prynu camera DSLR a lens broffesiynol, a dilyn hyfforddiant Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO).
Bydd y gwelliannau hyn yn helpu’r sefydliad i hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli, digwyddiadau, addysg amgylcheddol a gwaith bioamrywiaeth, yn ogystal â’i gynhyrchion pren o ffynonellau cynaliadwy.
Mae’r wefan newydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan wneud gwybodaeth am y coetir a’i weithgareddau yn fwy hygyrch. Mae Longwood hefyd wedi cofrestru â rhaglen Cynnig Cymraeg i ddatblygu ei ddarpariaeth Gymraeg ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon:
“Mae’n galonogol gweld sut mae cymorth drwy gronfa Cynnal y Cardi yn helpu sefydliadau cymunedol fel Longwood i ddatblygu eu sgiliau ac estyn allan at fwy o bobl.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu Longwood i amlygu’r gwaith pwysig sy’n digwydd yn y coetir, annog rhagor o bobl i gymryd rhan, a chefnogi ei gyfraniad at y gymuned leol am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Beth Marsden, Swyddog Bioamrywiaeth ac Ymgysylltu Coetir Cymunedol Longwood:
“Mae’r prosiect hwn wedi rhoi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen ar Longwood i rannu ein stori’n fwy effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y wefan newydd, y ffotograffiaeth well a’r sgiliau digidol ychwanegol yn ein helpu i ennyn diddordeb mwy o bobl yn y coetir, cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor’r adnodd cymunedol pwysig hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i wefan Coetir Cymunedol Longwood - Hafan - Coetir Cymunedol Longwood Llanbedr Pont Steffan
Mae Cronfa Datblygu a Chefnogi Cymunedol Cynnal y Cardi bellach wedi cau.
19/11/2026